Hafan | Siarter Iaith | Newyddion a Digwyddiadau | Llafar Gwlad
Llafar Gwlad
Bu’n flwyddyn lwyddiannus iawn i brosiect gefeillio ysgolion Llafar Gwlad!
Nod y prosiect yw cysylltu ysgolion cynradd ledled Cymru er mwyn hybu a datblygu sgiliau llafar Cymraeg y disgyblion. Eleni, cafodd ysgolion o Wynedd, Môn, Powys, Ceredigion, Sir y Fflint a Wrecsam gyfle i greu fideo yn cyflwyno eu hysgol a’u hardal leol, ei rhannu gydag ysgolion eraill o faint tebyg, ac yna cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb rhithiol.
Hoffem ddiolch yn arbennig i Ysgol Pentreuchaf ac Ysgol Maenofferen am gynrychioli Gwynedd eleni. Roedd yn bleser gweld y dysgwyr yn rhyngweithio â’i gilydd, yn magu hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg ac yn dysgu mwy am gymunedau ac ardaloedd eraill ledled Cymru.
Rydym yn edrych ymlaen at flwyddyn arall o gydweithio a rhannu profiadau!



