Hafan | Rhieni | Barn a Phrofiadau

Barn a Phrofiadau


✨ "Arbennig"✨

Dyna'r gair a ddefnyddiwyd gan un o'n dysgwyr i ddisgrifio'i brofiad yn y Ganolfan Iaith, ac mae'n crynhoi'r profiad yn berffaith!🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

🎲 Mae Canolfannau Iaith Gwynedd yn cynnig croeso cynnes ac amgylchedd diogel i blant sy'n newydd i'r Gymraeg. Dros gyfnod o 10 wythnos, mae disgyblion yn datblygu'r hyder a'r sgiliau sydd eu hangen i ddefnyddio'r Gymraeg o ddydd i ddydd, cyn ymuno'n llawn â bywyd dwyieithog eu hysgol🗣️

Trwy weithgareddau hwyliog, straeon, gemau a phrofiadau difyr yn nhref ddychmygol Aberwla, mae'r plant yn dysgu'r Gymraeg mewn ffordd naturiol, gefnogol a hwyliog.

📹 Gwyliwch y fideo i glywed gan y disgyblion a'r staff am y profiad arbennig hwn.

Teulu Rhydymain a’u profiad o’r ganolfan drochi

Beth Mae Rhieni yn ei Ddweud?

Profiadau teuluoedd sydd wedi mynychu Canolfannau Iaith Gwynedd

“Roedd fy mhlentyn yn gyffrous, ond yn nerfus cyn dechrau. Ar ôl ei ddiwrnod cyntaf, daeth adref yn hapus iawn ac yn edrych ymlaen at fynd yn ôl eto.”

- Rhiant

“Mae hyder fy merch i siarad, ysgrifennu a deall Cymraeg wedi cynyddu'n aruthrol ers mynychu’r ganolfan iaith.”

- Rhiant

“Dechreuodd fy merch ddefnyddio mwy o Gymraeg gartref, ac roedd ganddi frwdfrydedd newydd tuag at ddysgu.”

- Rhiant

“Mae fy mab bellach yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg.”

- Rhiant

“Mae'r Ganolfan Iaith wedi rhoi'r hyder i fy mab siarad mwy o Gymraeg ar ôl iddo ddychwelyd i'r ysgol.”

- Rhiant

“Nid yn unig mae fy merch wedi dysgu Cymraeg, ond mae hi hefyd wedi magu mwy o hyder a chred ynddi hi ei hun.”

- Rhiant