Gair o Groeso
Croeso i wefan Canolfannau Trochi Gwynedd.
Beth yw’r Gyfundrefn Addysg Drochi?
Mae’n wasanaeth arbennig gan Gyngor Gwynedd i helpu plant sydd wedi symud i fyw i Wynedd i ddysgu Cymraeg mewn ffordd naturiol a chyflym.
Mae disgyblion yn mynychu canolfan drochi am gyfnod o 10 wythnos, lle maent yn cael addysg trwy gyfrwng y Gymraeg mewn amgylchedd cefnogol, ymarferol a hwyliog.
Nod ac amcanion allweddol.
-
Cefnogi dysgwyr newydd i’r Gymraeg i feistroli’r iaith a gallu cymryd rhan yn llawn mewn addysg ddwyieithog.
-
Helpu disgyblion i ymuno’n hyderus ag addysg ddwyieithog yn eu hysgol gartref ar ôl y cyfnod drochi.
Trefniadaeth y gyfundrefn.
Mae 6 canolfan drochi ar draws Gwynedd i wasanaethu gwahanol ardaloedd y sir.
Ceir:
-
3 canolfan gynradd ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 2–4 (6–9 oed)
-
3 canolfan bontio ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 5–9 (9–14 oed)
Mae’r cyfnod yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu Cymraeg drwy weithgareddau ymarferol, creadigol ac ymgolli llwyr yn yr iaith.
Yn ystod y cyfnod drochi, mae disgyblion fel arfer yn treulio pedwar diwrnod yr wythnos yn y ganolfan drochi ac un diwrnod yn eu hysgol gartref.
Ar ôl y cyfnod drochi, maent yn dychwelyd yn llawn amser i’w hysgol gartref gyda chefnogaeth barhaus i ddatblygu eu Cymraeg.
Sut i wneud cais.
Os ydych yn riant neu’n warcheidwad plentyn sy’n newydd i’r Gymraeg ac yn byw yng Ngwynedd, gallwch gysylltu ag ysgol eich plentyn i wneud ymholiadau am ein darpariaeth.
Bydd yr ysgol yn trefnu’r broses o gyfeirio ac yn egluro’r cyfnod amser, cludiant, a’r cefnogaeth ar ôl trochi.
Manteision dwyieithrwydd (PDF)
