Hafan | Siarter Iaith | Gair o Groeso
Gair o Groeso
Croeso
Prif nod y Siarter Iaith yw ein helpu i siarad mwy o Gymraeg gyda’n gilydd bob dydd.
Rydym eisiau gweld plant yn defnyddio’r Gymraeg ym mhob man – yn yr ysgol ac yn y gymuned.
Mae pawb yn rhan o’r daith hon: disgyblion, athrawon, rhieni, llywodraethwyr a’n cymuned.
- Rydym am i bawb fwynhau siarad Cymraeg,
- Rydym am i bawb fod yn falch o’r Gymraeg a’r Siarter Iaith.
- Rydym am i bawb gydweithio i hyrwyddo’r Gymraeg.
- Rydym am i bawb ddathlu llwyddiant waeth pa mor fach; unigolion, ar lefel dosbarth, ysgol neu’n gymunedol.
Mae’r Criw Cymraeg yn yr ysgolion cynradd a’r Fforymau Iaith yn yr ysgolion uwchradd yn gwneud gwaith arbennig er mwyn cynnal y gwerthoedd yma.
Pwy ‘di pwy?
Yng Ngwynedd, mae dau Gydlynydd yn gweithio i hyrwyddo a chefnogi gwaith y Siarter Iaith. Mae un yn gweithio’n agos gyda’r ysgolion cynradd, a’r cydlynydd arall yn gweithio’n agos gyda’r ysgolion uwchradd.
Rydym hefyd yn ffodus iawn i gael Cydlynwyr Iaith o fewn pob dalgylch, sydd yn gwneud gwaith arbennig i hwyluso’r gwaith o fewn yr ysgolion. Mae 13 Cydlynydd Iaith yng Ngwynedd.
Dyma fanylion y Cydlynwyr Siarter Iaith Cynradd ac Uwchradd:
Cynradd: HelenLloydWilliams@gwynedd.llyw.cymru
Uwchradd: SianParryEirug@gwynedd.llyw.cymru
Canllawiau i Ysgolion / Guidelines for Schools:
O fewn y Fframwaith, fe geir amlinelliad manwl o’r canllawiau, sy’n esbonio sut y dylai ysgolion fynd ati i weithredu’r Fframwaith.
Mae Fframwaith y Siarter Iaith i’w gweld ar Hwb ac ar wefan Llywodraeth Cymru.
Dyma grynhoi’n fyr!
Bydd pob ysgol yn cychwyn drwy lenwi Holiadur Siarter Iaith ( y Gwe Iaith), sydd i’w gael ar Hwb, ar ddechrau tymor newydd ym mis Medi, gyda disgyblion o flynyddoedd 2 hyd at flwyddyn 11. Bydd y canlyniadau’n gosod gwaelodlin i’r ysgol o’r meysydd penodol y bydd angen eu blaenoriaethau er mwyn cynllunio gweithgareddau ar gyfer y flwyddyn.
Yna, yn nhymor yr haf, bydd yr ysgol yn ail-lenwi Holiadur Siarter Iaith (Gwe Iaith). Bydd hyn yn galluogi ysgolion i gymharu’r canlyniadau gyda’r canlyniadau blaenorol er mwyn gwerthuso pa mor effeithiol fu’r gwaith a ddigwyddodd yn ystod y flwyddyn i hyrwyddo nodau’r Siarter Iaith.
Gall ysgolion ymgeisio am un o dair gwobr y Siarter Iaith, sef Gwobr Efydd, Arian neu Aur.
GWOBR EFYDD
- Mae bron pawb yng nghymuned yr ysgol yn deall yr amcanion ac yn ymwybodol o weledigaeth y Siarter Iaith.
- Mae'r ysgol wedi adeiladu sylfaen a mecanwaith cryf ar gyfer gweithredu'r Siarter sy'n cynnwys rhanddeiliaid ar draws cymuned yr ysgol.
- Mae'r ysgol wedi llunio cynllun gweithredu addas ac yn dechrau gweld effaith y gweithredu yn yr amcanion.
GWOBR ARIAN
- Mae bron pawb o gymuned yr ysgol yn deall pam y gweithredir y Siarter.
- Mae'r staff cyfan yn rhan o'r cynllunio, gweithredu a'r monitro.
- Mae cymuned yr ysgol yn medru cynllunio gweithredoedd addas mewn ymateb i ganlyniadau'r holiaduron ac yn medru mesur llwyddiant a chynnydd y gweithredoedd yma.
- Mae dysgwyr, gyda chymorth, yn arwain gweithredoedd yn llwyddiannus.
- Mae bron pawb yng nghymuned yr ysgol wedi datblygu ymdeimlad o falchder yn eu hunaniaeth Gymreig ac wedi magu brwdfrydedd dros yr iaith.
- Mae gweithredoedd yn dechrau cael effaith ar arfer amser hamdden y dysgwyr e.e. dewis defnyddio apiau, teledu, chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol ayb.
- Ceir ethos Cymraeg a Chymreig o fewn yr ysgol.
GWOBR AUR
- Mae cymuned yr ysgol gyfan yn llysgenhadon dros y Gymraeg a’i defnydd, ac yn hyrwyddo nodau’r Siarter Iaith yn llwyddiannus i wireddu gweledigaeth yr ysgol.
- Mae holl randdeiliaid yr ysgol yn allweddol wrth gynllunio, gweithredu a monitro’r Siarter Iaith.
- Mae cymuned yr ysgol gyfan yn gallu cynllunio camau gweithredu hynod effeithiol mewn ymateb i ganlyniadau holiadur blynyddol.
- Mae bron pob un o’r staff yn gallu mesur llwyddiant a chynnydd yn llwyddiannus a chymryd y camau angenrheidiol i wireddu’r weledigaeth.
- Mae dysgwyr yn cefnogi eu cyfoedion yn llwyddiannus trwy arwain ystod eang o fentrau.
Ymgeisio am Wobr: sut?
Cysylltwch gyda Chydlynwyr y Siarter Iaith (cynradd ac/neu uwchradd) i nodi’ch bod chi’n dymuno ymgeisio am un o’r gwobrau.
Beth wedyn?
Bydd cyfle i ysgolion dderbyn ymweliad cyn-dilysu gan un o’r Cydlynwyr. Os yn ymgeisio am wobr, fe fydd yr ysgol yn cyflwyno cynllun gweithredu a hunan arfarniad i Gydlynydd y Siarter Iaith. Bydd ymweliad â’r ysgol yn cael ei drefnu, ble bydd amser i gael sgwrs gyda Phennaeth yr ysgol a’r aelod staff sydd â chyfrifoldeb dros y Siarter Iaith, aelod o’r Corff Llywodraethol, a chriw o ddisgyblion sydd wedi arwain ar y gwaith.
Tua dwy awr a hanner fydd hyd yr ymweliad dilysu. Bydd cyfle i drafod trefn yr ymweliad ymlaen llaw gyda’r Cydlynydd. Bydd y dyfarniad yn cael ei rannu, fel arfer, ar yr un diwrnod â’r ymweliad dilysu.
Wedi derbyn Gwobr Aur? Beth wedyn?
Os yw’r ysgol yn llwyddo i ennill gwobr aur, bydd y statws yn ddilys am gyfnod o dair blynedd, pan bydd ail arfarniad yn digwydd.
