Hafan | Gwybodaeth | Y Cwrs

Y Cwrs


Aberwla

Mae’r cwrs yn cynnig cyfle arbennig a chefnogol i ddisgyblion sy’n newydd i’r Gymraeg, neu sydd angen cymorth ychwanegol i ddatblygu eu medrau a’u hyder yn yr iaith. Mae’n rhoi sylfaen gadarn yn y Gymraeg ac yn helpu dysgwyr i deimlo yn rhan lawn o fywyd dwyieithog yr ysgol.

Mae’r disgyblion yn mynychu’r ganolfan am gyfnod o 10 wythnos. Yn ystod y cyfnod hwn, maent yn treulio pedwar diwrnod yr wythnos yn y ganolfan. Bob dydd Gwener maent yn dychwelyd I'w hysgol er mwyn cynnal cysylltiad parhaus â’r ysgol honno.

Caiff y disgyblion eu cefnogi’n ofalus i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn amgylchedd diogel a chroesawgar sy’n annog mwynhad a datblygiad.

Drwy weithgareddau hwyliog a phwrpasol sy’n seiliedig ar y dref ddychmygol Aberwla, bydd dysgwyr yn cael cyfle i gyfarfod â chymeriadau ac i ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol mewn amrywiaeth o brofiadau.

Mewn amgylchedd gofalgar a hwyliog, mae’r cwrs yn helpu’r disgyblion i fagu medrau i siarad a deall Cymraeg o ddydd i ddydd, dysgu a defnyddio deialogau syml mewn sefyllfaoedd pob dydd, a datblygu medrau darllen drwy fwynhau straeon. Yn y blynyddoedd hŷn, rhoddir sylw hefyd i ddatblygu medrau ysgrifennu .

Aleighcia Scott yn Aberwla

Dyma’r cerddor a‘r darlledwraig Aleighcia Scott yn archwilio pentref rhithwir Aberwla, gan arddangos dysgu VR Cymraeg ar waith.
 

Gwybodaeth am Aberwla

llinnel o cymeriadau cartwn