Hafan | Siarter Iaith | Newyddion a Digwyddiadau | Gornest Lyfrau Blwyddyn 5 a 6
Gornest Lyfrau Blwyddyn 5 a 6
Ddydd Iau, 18 Mehefin yng Nghanolfan Arad Goch, Aberystwyth, cynhaliwyd rownd genedlaethol Gornest Lyfrau Blwyddyn 5 a 6.
Bu disgyblion o ysgolion ar draws Cymru yn trafod llyfrau, yn gwylio eu hysbysebion ar y sgrin fawr, yn creu cloriau a broliannau ac yn cael sesiwn gyda'r awdur Siôn Tomos Owen.
Llongyfarchiadau arbennig i Ysgol Cymerau ar gynrychioli Gwynedd. Diolch i'r disgyblion am eu hymdrech ac ymroddiad, ac i'r staff am eu cefnogaeth i sicrhau bod y disgyblion wedi cael y profiad arbennig hwn.
Yr ysgolion ddaeth i'r brig oedd:
1af - Ysgol Cwm Banwy, yn cynrychioli Powys
2ail – Ysgol Treganna yn cynrychioli Caerdydd
3ydd - Ysgol Cymerau yn cynrychioli Gwynedd
Llongyfarchiadau mawr i bawb!
