Hafan | Siarter Iaith | Newyddion a Digwyddiadau | Gornest Lyfrau Blwyddyn 3 a 4

Gornest Lyfrau Blwyddyn 3 a 4


Ddydd Mercher, 17 Mehefin yng Nghanolfan Arad Goch, Aberystwyth, cynhaliwyd rownd genedlaethol Gornest Lyfrau Blwyddyn 3 a 4. 

Bu disgyblion o ysgolion ar draws Cymru yn trafod llyfrau, yn gwylio eu hysbysebion ar y sgrin fawr, yn creu cloriau a broliannau ac yn cael sesiwn gyda'r awdur Siôn Tomos Owen. 

Llongyfarchiadau enfawr i Ysgol Waunfawr ar gynrychioli Gwynedd. Diolch i’r disgyblion am eu hymdrech a’u llwyddiant, ac i staff yr ysgol a’r gymuned am eu cefnogaeth i sicrhau bod y disgyblion wedi cael y profiad arbennig hwn. 

Yr ysgolion ddaeth i'r brig oedd: 
1af - Ysgol Pen Barras, yn cynrychioli Sir Ddinbych 
2ail – Ysgol Melin Gruffydd yn cynrychioli Caerdydd 
3ydd - Ysgol Pennant yn cynrychioli Powys  

Llongyfarchiadau mawr i bawb! 

Plant o Ysgol Pen Barras yn dod yn 1af yn Gornest Lyfrau Blwyddyn 3 a 4

Newyddion