Hafan | Siarter Iaith | Newyddion a Digwyddiadau | 3 ysgol arall yn ennill aur!

3 ysgol arall yn ennill aur!


Llongyfarchiadau enfawr i Ysgol Tudweiliog, Ysgol y Gorlan ac Ysgol Uwchradd Botwnnog ar ennill Gwobr Aur y Siarter Iaith!

Mae'r wobr hon yn gydnabyddiaeth haeddiannol o ymrwymiad, angerdd ac arweinyddiaeth y dysgwyr, y staff, y llywodraethwyr a'r cymunedau ysgol wrth hyrwyddo'r Gymraeg fel iaith fyw bob dydd.

Mae llwyddiant y tair ysgol yn adlewyrchu'r gwaith arbennig sy'n digwydd i greu diwylliant lle mae'r Gymraeg yn rhan naturiol o fywyd yr ysgol ac yn cael ei defnyddio'n hyderus gan y disgyblion, o fewn a thu hwnt i'r ystafell ddosbarth.

Diolch am y croeso cynnes yn ystod yr ymweliadau, ac yn arbennig i'r Criwiau Cymraeg am eu brwdfrydedd a'u harweinyddiaeth. Mae'r Wobr Aur yn dyst i'r ymrwymiad, yr egni a'r bwrlwm sy'n bodoli ar draws ysgolion Gwynedd.
 

Newyddion