Wythnos 4


Croeso i’r bedwaredd wythnos yn y canolfannau iaith!

Mae’r wythnos hon wedi bod yn llawn gweithgareddau hwyliog a chyfleoedd i ddatblygu sgiliau Cymraeg ar draws y cwricwlwm. Dysgodd y dysgwyr berfenwau, arddodiaid ac anifeiliaid drwy gemau, caneuon a gweithgareddau llafar megis Mae Seimon yn Dweud a Charades.

Yng Nghanolfan Iaith Porthmadog, cafodd y dysgwyr gyfle i gyfarfod â Mali y ci a defnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd go iawn. Cafodd pawb gyfle i ymarfer rhoi cyfarwyddiadau a gofyn cwestiynau syml iddi, megis “Tyrd yma”, “Aros” a “Wyt ti eisiau diod?”. Cafodd y plant hefyd y cyfrifoldeb o arwain Mali ar ei thennyn yn eu tro, gan feithrin hyder a datblygu eu sgiliau cyfathrebu. Wrth fynd am dro, dysgon nhw eiriau newydd fel mynydd, llyn, afon, pont a choed, gan ddefnyddio’r Gymraeg mewn ffordd naturiol a hwyliog.

Yng Nghanolfannau Iaith Tryfan a Thywyn, dathlodd y dysgwyr Ddiwrnod Shwmae Su’mae drwy fynd o amgylch yr ysgol yn cyfarch athrawon a staff yn Gymraeg. Roedd hwn yn gyfle gwych i ddefnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd go iawn a datblygu hyder wrth siarad.

Yng Nghanolfan Iaith Dolgellau, bu’r dysgwyr yn ymweld â’r llyfrgell leol lle cawsant ddewis llyfr Cymraeg o’u diddordeb. Roedd hyn yn helpu i feithrin mwynhâd o ddarllen ac ehangu eu geirfa yn Gymraeg.

Bu pawb yn ymweld â Fferm Aberwla yr wythnos hon, lle cawsant gyfle i gymryd rhan mewn drama, gemau a gweithgareddau ysgrifennu yn seiliedig ar gymeriad Wil Tomos. Cafodd y dysgwyr gyfle i berfformio rolau gwahanol, gan ddatblygu eu hyder a’u sgiliau llafar yn y Gymraeg. Dysgon nhw hefyd enwau anifeiliaid y fferm ac anifeiliaid gwyllt mewn ffordd hwyliog.

Mae’n braf gweld hyder y dysgwyr yn parhau i dyfu a’u defnydd o’r Gymraeg yn datblygu o wythnos i wythnos. Edrychwn ymlaen at ragor o hwyl, dysgu a llwyddiannau yn y canolfannau iaith.

Mae’r wythnos hon wedi bod yn llawn o eiriau a phatrymau newydd.

  • Arddodiaid
  • Anifeiliaid
  • Berfenwau
  • Amser

Cyfleoedd Dysgu Adref

  • Gwylio rhaglenni Cymraeg – Hafod Haul, Anifeiliaid Bach y Byd
  • Cwis – “Ble mae’r...?”
  • Edrychwch am anifeiliaid yn yr ardd neu wrth fynd am dro
  • Defnyddio berfenwau i ddisgrifio beth maen nhw’n ei wneud ar ôl ysgol / dros y penwythnos