Hafan | Blogiau Wythnosol | Blogiau Tymor yr Hydref 2026 | Wythnos 1
Wythnos 1
Cychwyn Cyffrous i'r Canolfannau Iaith
Mae’r tymor wedi dechrau’n wych yn y canolfannau iaith, gyda dysgwyr newydd yn ymgartrefu’n gyflym ac yn dechrau magu hyder yn eu defnydd o’r Gymraeg. Drwy amrywiaeth o weithgareddau hwyliog a chyfleoedd i weithio gyda’i gilydd, mae’r dysgwyr wedi dod i adnabod ei gilydd, meithrin cyfeillgarwch newydd a datblygu ymdeimlad o berthyn yn eu hamgylchedd newydd.
Yn ystod yr wythnos gyntaf, cafodd y dysgwyr eu cyflwyno i elfennau sylfaenol y Gymraeg. Roeddent yn archwilio’r wyddor Gymraeg, yn dysgu geirfa newydd ac yn datblygu eu sgiliau darllen, siarad ac ysgrifennu drwy weithgareddau ymarferol a gemau iaith. Cafwyd cyfleoedd rheolaidd i ymarfer cyfarchion ac ateb cwestiynau syml amdanynt eu hunain.
Roedd bwyd a phrydau’r dydd yn thema bwysig yn ystod yr wythnos, gyda’r dysgwyr yn dysgu geirfa newydd ac yn ymarfer patrymau iaith defnyddiol. Helpodd gweithgareddau hwyliog ac ymarferol y dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus wrth siarad ag eraill.
Yn ystod y sesiynau creadigol, dysgodd y dysgwyr enwau lliwiau ac fe’u defnyddiwyd mewn amrywiaeth o dasgau celf a dylunio. Roedd y gweithgareddau hyn yn gyfle gwerthfawr i gyfuno creadigrwydd â datblygu sgiliau iaith newydd.
Yn ddiweddarach yn yr wythnos, cafodd y dysgwyr gyfle i archwilio agweddau ar ddiwylliant a threftadaeth Cymru.
Mwynhaodd y dysgwyr wrando ar gerddoriaeth Gymraeg a chymryd rhan mewn gweithgareddau a thrafodaethau difyr a oedd yn dathlu Cymreictod ac yn ehangu eu dealltwriaeth o Gymru.
Dyma gipolwg ar rai o’r profiadau a’r gweithgareddau a fwynhawyd gan y dysgwyr yn ystod wythnos gyntaf y tymor.
- Casgliad o luniau o plant yn dysgu Cymraeg yn y dosbarth yn Maesincla
- Casgliad o luniau o plant yn dysgu Cymraeg yn y dosbarth yn Porthmadog
- Casgliad o luniau o plant yn dysgu Cymraeg yn y dosbarth yn Cymerau
- Casgliad o luniau o plant yn dysgu Cymraeg yn y dosbarth yn Tryfan
- Casgliad o luniau o plant yn dysgu Cymraeg yn y dosbarth yn Tywyn





