Wythnos 8


Mae’r wythnos hon wedi bod yn un arbennig yn y canolfannau iaith, gyda’r tywydd crasboeth yn gweddu’n berffaith i’n thema, sef y tywydd! Mae’r heulwen wedi rhoi digon o gyfleoedd i’r plant ddefnyddio geirfa ac ymadroddion newydd mewn sefyllfaoedd go iawn. Rhoddwyd blaenoriaeth wrth reswm i lesiant y dysgwyr yn ystod y tywydd crasboeth a chyfleoedd i oeri gyda thraed yn y dŵr, mwynhau loli pops oer a manteisio i’r eithaf ar y tywydd bendigedig.

Cafodd y plant gyfle i gyfarfod â rhagor o gymeriadau newydd Aberwla – Gwen, Bob a Gari  a mwynhau stori Y Corwynt, gyda Bob bach yn brif gymeriad. Er bod storm fawr yn y stori, roedd yr haul yn dal i ddisgleirio y tu allan! Cafwyd cyfleoedd cyson i ddatblygu patrymau iaith newydd drwy amrywiaeth o gemau a gweithgareddau llafar.

Yn ystod y sesiynau VR yn y canolfannau pontio cynradd/uwchradd, bu i'r plant ymweld â'r orsaf dywydd yn Aberwla. Roedd hyn yn gyfle gwych i atgyfnerthu geirfa’r tywydd ac iaith gyfarwyddiadol mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol. Bu rhai o’r canolfannau hefyd yn cynnal arbrawf o greu corwynt mewn jar, tra bu eraill yn chwarae rôl cyflwynwyr y tywydd.

Bu rhai o’r canolfannau ar daith i’r archfarchnad leol i brynu cynhwysion ar gyfer paratoi brechdan iachus. Roedd hwn yn gyfle gwych i ddefnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd go iawn wrth siopa, trafod bwydydd ac yna dilyn cyfarwyddiadau wrth baratoi eu cinio eu hunain.

Mae wedi bod yn wythnos arall yn llawn dysgu, hwyl a chwerthin. Rydym yn falch iawn o ymdrechion a brwdfrydedd pob dysgwr ac yn edrych ymlaen at wythnos arall o ddatblygu eu Cymraeg.

Mae’r wythnos hon wedi bod yn llawn o eiriau a phatrymau newydd:

  • Cwestiynau trydydd person – Ble aeth...? Beth welodd...? Beth wnaeth...? Beth gafodd...? Beth glywodd...? 
  • Geirfa newydd o’r stori 
  • Rhagolygon y tywydd 
  • Disgrifio cymeriad 
  • Terminoleg mesur 

Cyfleoedd Dysgu Adref

  • Mesur gwrthrychau o gwmpas y tŷ. 
  • Trafod y tywydd bob dydd gan ddefnyddio geirfa Gymraeg. 
  • Gwylio rhagolygon y tywydd a thrafod beth sy’n cael ei weld neu ei glywed yn Gymraeg. 
  • Chwarae gemau Cymraeg. 
  • Gwylio rhaglenni Cymraeg. 
  • Gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg.