Hafan | Blogiau Wythnosol | Blogiau Tymor yr Haf 2026 | Wythnos 7
Wythnos 7
Mae’r wythnos hon, unwaith eto, wedi bod yn llawn dysgu, hwyl a chwerthin yn ein canolfannau.
Thema’r wythnos hon oedd bwyd a diod, a chafodd y plant gyfleoedd i ddatblygu eu geirfa a’u patrymau iaith drwy weithgareddau rhyngweithiol fel canu, chwarae rôl, gemau iaith a drama. Roedd y gweithgareddau hyn yn creu cyfleoedd naturiol i’r plant ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destun ystyrlon a datblygu eu hyder i gyfathrebu.
Cyflwynwyd rhagor o enwau bwydydd newydd yn Gymraeg drwy brofiadau ymarferol, ynghyd â chyfle i ddysgu am ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi.
Cafodd y plant sesiwn flasu “Wyt ti’n hoffi...?”, lle cawsant gyfle i flasu gwahanol ffrwythau a bwydydd wrth ymateb i’r cwestiwn “Wyt ti’n hoffi...?” a dweud yn uchel beth yr oeddent yn ei hoffi a beth nad oeddent yn ei hoffi. Defnyddiwyd y patrymau iaith newydd:
- “Rydw i’n hoffi... achos mae o’n...”
- “Dydw i ddim yn hoffi... achos mae o’n...”
Bu llawer o chwerthin wrth i’r plant brofi blasau gwahanol, gyda wynebau doniol yn ymddangos wrth flasu sudd lemwn ffres neu ddarn bach o rawnffrwyth! Roedd y sesiwn yn ffordd hwyliog a bywiog o ymarfer y Gymraeg a blasu amrywiaeth o fwydydd ar yr un pryd. Roedd rhai o’r plant hyd yn oed yn awyddus i ailadrodd y sesiwn gyda rhagor o ffrwythau.
Yn y sesiwn rhifedd, dysgodd y plant dermau newydd fel punnoedd, ceiniogau a chyfanswm, a chreu rhestrau siopa. Cafwyd hefyd gyfle i chwarae rôl yn Deli Aberwla, lle’r oedd y plant yn cymryd tro fel cwsmeriaid a gwerthwyr, gan ddefnyddio’r Gymraeg i drafod prisiau a chyfrifo arian mewn sefyllfaoedd ymarferol.
Yn y sesiynau drama, bu’r plant yn perfformio deialog ddoniol, “Ysbrydion Drwg”, lle’r oedd ysbrydion yn ceisio dychryn pawb yn Siop Bob Dim Aberwla, gan ddefnyddio eu dychymyg a siarad Cymraeg mewn cyd-destun theatrig.
Cafodd y plant brofiad rhyngweithiol wrth ddysgu am y 5 Synnwyr yn Gymraeg, gan ganolbwyntio ar weld, clywed, teimlo, blasu ac arogli. Cafwyd cyfleoedd i ddyfalu beth oedd yn y bocs, gan hybu chwilfrydedd a sylw manwl. Yn ystod y gweithgareddau, dysgon nhw hefyd drefnolion a gorchmynion, gan eu defnyddio’n naturiol wrth flasu, chwarae gemau a dilyn cyfarwyddiadau.
Uchafbwynt arall yr wythnos oedd ein taith i’r llyfrgell yn y Ganolfan Iaith ar safle Ysgol Eifionydd. Cafodd y plant gyfle i archwilio amrywiaeth o lyfrau Cymraeg, pori drwy’r silffoedd a dewis llyfrau oedd o ddiddordeb iddynt. Roedd y daith yn gyfle gwerthfawr i ddatblygu cariad at ddarllen, ehangu geirfa a defnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destun naturiol. Mwynhaodd y plant wrando ar straeon, trafod llyfrau gyda’i gilydd a rhannu eu hoff lyfrau â’u ffrindiau.
Cafodd y plant ail sesiwn arbennig gyda Geth Tomos, a oedd yn gyfle gwych iddynt ddefnyddio’r Gymraeg mewn ffordd greadigol a hwyliog. Bu’r dysgwyr yn cydweithio i greu cerddoriaeth a chaneuon gan gynnwys y patrymau iaith newydd a gyflwynwyd yn ystod yr wythnosau diwethaf. Roedd y sesiwn yn annog y plant i ddefnyddio eu geirfa newydd yn hyderus, datblygu eu sgiliau llafar a mynegi eu syniadau drwy gerddoriaeth. Mwynhaodd pawb gymryd rhan, a bu llawer o frwdfrydedd a chreadigrwydd wrth gyfansoddi a pherfformio eu gwaith.
I gloi’r wythnos, paratowyd salad ffrwythau lliwgar gyda’i gilydd, gan ddefnyddio’r eirfa newydd i greu a dilyn cyfarwyddiadau wrth baratoi’r bwyd – ffordd fywiog, hwyliog a naturiol o ymarfer y Gymraeg!
Diolch i bawb am eu brwdfrydedd a’u hymdrech yr wythnos hon. Edrychwn ymlaen at yr wythnos nesaf!
Dyma gipolwg ar yr hyn rydym wedi bod yn ei ddysgu yr wythnos hon
Geirfa a phatrymau newydd
- Enwau bwyd a diod
- Patrymau mynegi barn:
- Rydw i’n hoffi... achos mae o’n...
- Dydw i ddim yn hoffi... achos mae o’n...
- Y 5 Synnwyr
- Trefnolion
- Gorchmynion
- Patrymau disgrifio cymeriad
- Arian
Cyfleoedd Dysgu Adref
- Chwarae rôl – siop neu gaffi
- Ymarfer mynegi barn yn syml
- Paratoi bwyd gyda’ch gilydd
- Trafod arian ar drip i’r siop neu wrth ymarfer gartref
- Creu rhestr siopa
- Darllen llyfr Cymraeg a thrafod y stori
- Cyd-ganu caneuon Cymraeg a defnyddio’r patrymau iaith newydd
Diolch am eich cefnogaeth barhaus. 🌟






