Hafan | Blogiau Wythnosol | Blogiau Tymor yr Haf 2026 | Wythnos 3
Wythnos 3
Croeso i flog wythnosol y canolfannau iaith.
Uchafbwyntiau’r Wythnos
Bu’r wythnos hon yn llawn dysgu hwyliog a gweithgareddau creadigol, gyda’r hwyl yn parhau drwy gydol Wythnos 3. Dysgodd y plant enwi rhannau’r corff drwy ganeuon a gweithgareddau sialc y tu allan. Trwy symud gyda’r rhythmau, datblygodd y plant eu geirfa mewn ffordd hwyliog ac ymgysylltiol, gan fwynhau’r dysgu ar yr un pryd.
Un o uchafbwyntiau arbennig yr wythnos oedd gweithdy cerdd hwyliog gyda Geth Tomos yng Nghanolfan Iaith Tryfan a Chanolfan Iaith Maesincla. Cafodd y plant gyfle i ganu, symud a mwynhau cerddoriaeth, gan ddatblygu eu hyder a’u sgiliau iaith mewn ffordd fywiog a chreadigol.
Cafodd y plant gyfle hefyd i ddysgu geirfa dillad a defnyddio patrymau iaith mewn cyd-destunau amrywiol a diddorol. Yn ystod y gweithgaredd ‘Bag Siopa’, dilynodd y plant gyfarwyddiadau i wisgo cymeriadau. Yn ogystal, bu’r plant yn cymryd rhan mewn chwarae rôl, gan ymarfer prynu het mewn siop a defnyddio patrymau iaith perthnasol mewn sefyllfa realistig. Yn ogystal, cynlluniodd a dyluniodd pob plentyn wisgoedd i’w cymeriadau eu hunain – ffordd wych o hybu creadigrwydd a datblygu’r gallu i ddilyn cyfarwyddiadau cam wrth gam.
Cafwyd cyflwyniad i dref ddychmygol Aberwla, lle bu’r plant yn ymarfer eu sgiliau iaith drwy ddysgu am ddau gymeriad, Aron a Beca. Anogwyd y plant i ddisgrifio personoliaethau a nodweddion y cymeriadau, gan ddatblygu eu hiaith ddisgrifiadol ymhellach.
Yn y sesiynau rhifedd, chwaraeodd y plant gemau rhif i ymarfer eu sgiliau cyfrifo mewn modd hwyliog a rhyngweithiol, gan atgyfnerthu terminoleg sylfaenol.
Yn ogystal, bu disgyblion Canolfan Iaith Porthmadog yn mwynhau dysgu yn yr awyr agored, gan ganolbwyntio ar anifeiliaid y fferm a geirfa natur. Roedd hyn yn gyfle gwych i gysylltu iaith â’r byd o’u cwmpas, gan wneud y dysgu’n ystyrlon ac ymarferol.
Atgyfnerthwyd yr iaith ddisgrifiadol ymhellach wrth i’r plant ddysgu sut i recordio eu gwaith llafar ar ap, gan roi llais i bob plentyn fel cymeriad. Roedd hyn yn cynnig cyfle gwerthfawr i ymarfer sgiliau cyfathrebu a datblygu hyder wrth siarad mewn sefyllfa hwyliog a dychmygus.
Yn y Canolfannau Pontio Cynradd ac Uwchradd, un o uchafbwyntiau’r wythnos oedd defnyddio technoleg rithwir (VR) i fynd ar daith rithiol o gwmpas Fferm Tyddyn Swnllyd, gan ychwanegu elfen gyffrous at y profiad dysgu.
Bu’r wythnos yn llawn hwyl, dysgu a chreadigrwydd, gyda chyfleoedd cyson i’r plant ddatblygu a chymhwyso eu sgiliau iaith ymhellach.
Geirfa a Phatrymau’r Wythnos
Mae’r wythnos hon wedi bod yn llawn o eiriau a phatrymau newydd:
Rhannau’r Corff:
braich, ysgwydd, bys, bawd, coes, troed, penelin, pen-glin, cefn, pen ôl, bol, botwm bol, gwddf
Dillad:
blows, cap, cot, crys, crys-T, crys isaf, esgidiau, bŵts, ffedog, gwasgod, het, menyg, sgarff, sgert, siaced, teits, trowsus, ymbarél, siwmper ysgol, crys polo
Ansoddeiriau Dillad:
lliwiau, meddal, hir, byr, lliwgar, llachar, streipïog, patrwm, logo
Patrymau Iaith
Gwisgo a Disgrifio Dillad:
- Rydw i’n gwisgo ______. / Dydw i ddim yn gwisgo ______.
- Wyt ti’n gwisgo ______? / Ydw / Nac ydw
- Beth mae ______ yn gwisgo? Mae ______ yn gwisgo ______ o ______.
Dylunio a Chreu:
dylunio, creu, syniad, papur, bagiau plastig, poteli plastig, ailgylchu, mesur, torri
Dylunio gwisg i gymeriad gan ddefnyddio deunyddiau ailgylchu a chynnal sioe ffasiwn.
Y Teulu:
- Brawd / brodyr, chwaer / chwiorydd
- Oes gen ti frawd / chwaer? Oes / Nac oes
- ______ ydy o / hi / ydyn nhw
Meddiant:
- Mae gen i ______. / Does gen i ddim ______.
Mathemateg:
dwbl, hanner, mwy na, llai na, adio, tynnu, lluosi, rhannu
- Beth ydy dwbl / hanner ______?
- Pa rif ydy’r mwyaf / lleiaf?
Cyfleoedd Dysgu Adref – Wythnos 3
- Rhannau’r Corff: Dysgwch enwau rhannau’r corff fel braich, ysgwydd, bys, troed a bol.
- Dillad: Sgwrsio am ddillad gan ddefnyddio brawddegau fel “Rydw i’n gwisgo…” a “Beth mae o’n gwisgo?”.
- Dylunio a Chreu: Creu a dylunio gwisg i gymeriad gan ddefnyddio papur neu ddeunyddiau ailgylchu.
- Y Teulu a Meddiant: Sgwrsio am deulu a defnyddio “Mae gen i…” neu “Does gen i ddim…”.
- Mathemateg: Defnyddio geirfa fel dwbl, hanner, mwy na, llai na gydag enghreifftiau syml.
- Cagliad o luniau o plant yn Canolfan Iaith Pwllheli yn dysgu Cymraeg
- Cagliad o luniau o plant yn Canolfan Iaith Dolgellau yn dysgu Cymraeg
- Cagliad o luniau o plant yn Canolfan Iaith Maesincla yn dysgu Cymraeg
- Cagliad o luniau o plant yn Canolfan Iaith Porthmadog yn dysgu Cymraeg
- Cagliad o luniau o plant yn Canolfan Iaith Tryfan yn dysgu Cymraeg
- Cagliad o luniau o plant yn Canolfan Iaith Tywyn yn dysgu Cymraeg






