Wythnos 2


Mae’r dysgwyr wedi setlo’n dda i’w hail wythnos o ddysgu Cymraeg, gan barhau i ddatblygu hyder wrth ddefnyddio patrymau iaith mewn amrywiaeth o weithgareddau.

Uchafbwyntiau’r Wythnos

Yn ystod yr wythnos hon, bu’r disgyblion yn adeiladu ar eu dysgu blaenorol drwy ddefnyddio patrymau iaith mewn cyd-destunau newydd, gan eu helpu i ddod yn fwy hyderus wrth gyfathrebu ar lafar.

Yn ystod yr wythnos, dysgodd y dysgwyr enwau rhannau’r wyneb a’r corff drwy weithgareddau hwyliog fel symudiadau, canu a gemau. Cafwyd llawer o hwyl wrth greu lluniau doniol drwy gyfuno rhannau’r wyneb ag ansoddeiriau syml. Bu’r weithgaredd “Gadair Goch” yn gyfle arbennig i’r disgyblion ymarfer gofyn ac ateb cwestiynau, gan feithrin eu sgiliau llafar ymhellach.

Yn y sesiynau rhifedd, bu’r dysgwyr yn atgyfnerthu eu dealltwriaeth o rifau a symbolau drwy weithgareddau llafar a gemau cyfrif.

Drwy gydol yr wythnos, cyflwynwyd dyddiau’r wythnos a geirfa’r tywydd, gyda’r disgyblion yn defnyddio’r patrymau hyn yn rheolaidd mewn sgyrsiau boreol byr.

Yn ogystal, cafodd dysgwyr Canolfan Iaith Eifionydd gyfle i ddysgu yn yr awyr agored wrth fynd am dro i goedlan y Nyrseri, Tremadog. Yn ystod y profiad hwn, bu’r dysgwyr yn datblygu eu defnydd o eirfa natur a lliwiau drwy arsylwi’r amgylchedd o’u cwmpas a disgrifio’r hyn a welson nhw yn Gymraeg.

Geirfa a Phatrymau Iaith

Gorchmynion:
Ewch allan i chwarae, Edrychwch, Ysgrifennwch, Gwrandewch, Eisteddwch

Dyddiau’r wythnos:

  • Pa ddiwrnod ydy hi heddiw? Mae hi’n ______.
  • Pa ddiwrnod oedd hi ddoe? Roedd hi’n ______.
  • Pa ddiwrnod oedd hi echdoe? Roedd hi’n ______.

Tywydd:

  • Sut dywydd ydy hi heddiw? Mae hi’n ______.
  • Dydy hi ddim yn ______.
  • Sut dywydd oedd hi ddoe? Roedd hi’n ______.
  • Sut dywydd oedd hi echdoe? Roedd hi’n ______.

Rhannau’r corff – Yr wyneb:

  • Mae gen i ______. / Does gen i ddim ______.
  • Oes gen ti ______?
  • Oes, mae gen i ______. / Nac oes, does gen i ddim ______.

Cyfleoedd Dysgu Adref

  • Rhannu teimladau: Sgwrsio am deimladau neu ddefnyddio lluniau/cardiau i’w mynegi.
  • Gwrando ar gerddoriaeth Cymraeg: Gwrando, canu a symud, gan holi am eirfa syml.
  • Celf a chrefft: Lliwio lluniau wynebau, neu greu lluniau natur a thywydd gan ddefnyddio lliwiau.
  • Defnyddio Cymraeg bob dydd: Chwarae gemau syml gyda rhifau neu eirfa, a defnyddio ymadroddion fel “bore da” a “nos da”.