Wythnos 10


Croeso i flog wythnosol y Canolfannau Iaith a chofnod olaf y tymor hwn. Mae hi wedi bod yn hyfryd gweld y cynnydd ieithyddol arbennig a wnaed gan ddysgwyr y Canolfannau Iaith dros y tymor. Rydym yn falch iawn o bob un ohonynt a’r hyder y maent wedi’i ddatblygu wrth ddefnyddio’r Gymraeg.

Uchafbwyntiau’r Wythnos

Cafwyd llawer o hwyl yn dysgu am dri chymeriad newydd yr wythnos hon, sef Puw Paned, Olwen a Llywelyn Llwyd.

Bu’r dysgwyr yn mwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol drwy ddrama, chwarae rôl a gemau hwyliog ac  yn darllen y stori “Drych yr Amgueddfa”, ynghyd â chymryd rhan mewn amryw o gemau iaith yn seiliedig ar y stori.

Doedd dim prinder o chwerthin wrth i’r plant berfformio drama’r wythnos o’r enw “Problem Puw Paned”. Yn y ddrama, mae Puw yn archebu rhywbeth melys gan Mr Bowen, ond drwy gamgymeriad doniol iawn mae KitKat bendigedig yn cael ei gymysgu â bwyd cath Kit-e-Kat! Roedd perfformiadau’r plant yn llawn egni, doniau actio a chwerthin di-ben-draw. Mae’n siŵr bod pawb wedi mynd adref yn llawn hwyl a stori neu ddwy i’w rhannu.

Dymunwn y gorau i bob un o'r dysgwyr wrth iddynt ddychwelyd i'r ysgolion dydd Gwener a pharhau ar eu taith i ddysgu’r Gymraeg. Diolch yn fawr i’r holl blant, eu teuluoedd a’r ysgolion am eu cefnogaeth drwy gydol y tymor.

Mwynhewch wyliau’r haf a daliwch ati i siarad Cymraeg!