Wythnos 1


Uchafbwyntiau’r Wythnos 1

Roedd hi’n bleser mawr croesawu dysgwyr newydd i’r canolfannau iaith ar ddechrau’r tymor hwn. Bu wythnos brysur a llwyddiannus o ddysgu Cymraeg, gyda’r dysgwyr yn dechrau dod i adnabod ei gilydd a meithrin cyfeillgarwch newydd, fel y gwelir yn y gweithgareddau grŵp a’r sesiynau cylch yn y lluniau.

Yn ystod y sesiynau iaith, cafodd y dysgwyr gyflwyniad i’r wyddor Gymraeg ac fe wnaethant gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau hwyliog i’w helpu i adnabod a chofio llythrennau a phatrymau iaith. Gwelir hyn yn y lluniau lle mae’r dysgwyr yn gweithio ar dasgau darllen, yn defnyddio cardiau iaith ac yn cwblhau gweithgareddau ysgrifennu. Cawsant hefyd gyfle i ddysgu cyfarchion a chymryd rhan mewn gemau iaith i ymarfer ateb cwestiynau syml amdanynt eu hunain.

Datblygodd y dysgwyr eirfa yn ymwneud â bwyd, gan gynnwys brecwast a chinio, a dysgu sut i ofyn “Ga’ i…?” i’w gilydd. Mae’r lluniau’n dangos gweithgareddau rhyngweithiol ac ymarferol sy’n cefnogi’r dysgu hwn. Yn ystod y sesiynau celfyddydau mynegiannol, dysgodd y dysgwyr enwau’r lliwiau yn y Gymraeg a mwynhau gweithgareddau creadigol, fel y gwelir yn y tasgau lliwio a phatrymau.

Tuag at ddiwedd yr wythnos, cafodd y dysgwyr gyfle i ddysgu mwy am Gymru a’n hunaniaeth fel Cymry. Bu’r dysgwyr yn gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg ac yn profi agweddau ar ddiwylliant Cymru mewn ffordd hwyliog a diddorol, gyda’r lluniau’n dangos trafodaethau dosbarth a gwaith cydweithredol.

Dyma gipolwg ar rai o weithgareddau’r wythnos.