Blog - Wythnos 6


Yr wythnos hon, bu’r dysgwyr yn canolbwyntio ar ddatblygu eu Cymraeg drwy ddefnyddio geirfa a phatrymau newydd wrth drafod gwahanol leoliadau yn y gymuned.

Uchafbwyntiau’r Wythnos

Bu’r dysgwyr yn datblygu eu dealltwriaeth o adeiladau a mannau cyfarwydd yn y gymuned drwy gydol yr wythnos. Trwy amrywiaeth o weithgareddau, cafodd y dysgwyr gyfle i ddefnyddio geirfa a phatrymau iaith newydd wrth drafod lleoliadau, rhoi cyfarwyddiadau a dilyn cyfarwyddiadau. Bu’r dysgwyr yn dysgu defnyddio’r patrymau “Mae yna...” a “Does yna ddim...” wrth drafod gwahanol leoliadau a chyfleusterau. Cafwyd nifer o gyfleoedd i ymarfer y patrymau hyn mewn gweithgareddau amrywiol, gan ddisgrifio beth oedd i’w weld mewn adeiladau a mannau cyhoeddus.

Fel rhan o’n gwaith yr wythnos hon, aeth dysgwyr Canolfan Iaith Eifionydd, Porthmadog i’r ganolfan hamdden leol. Wrth grwydro o amgylch yr adeilad, bu’r dysgwyr yn defnyddio’r Gymraeg i drafod y gwahanol gyfleusterau a’u lleoliadau. Roedd yr ymweliad yn gyfle gwych i atgyfnerthu’r geirfa a’r patrymau a ddysgwyd yn y dosbarth mewn sefyllfa go iawn. Cawsant y cyfle hefyd i ofyn am siocled poeth yn Gymraeg yn y caffi cyn dychwelyd i’r ganolfan iaith.

Cafodd y canolfannau eraill gyfle i fynd allan hefyd i archwilio’r dref a’r gymuned leol. Dysgodd y dysgwyr am wahanol leoliadau ac enwau adeiladau yn Gymraeg, gan gael cyfle gwych i roi’r Gymraeg ar waith y tu allan i’r dosbarth.

Yn ystod yr wythnos, daeth y dysgwyr i adnabod dau gymeriad newydd, Ceri Caradog a Cled, yn ogystal â Jeff y ci. Cafodd y dysgwyr gyfleoedd i ddysgu geirfa newydd a datblygu eu sgiliau llafar drwy sesiynau drama hwyliog a gweithgareddau yn seiliedig ar ddisgrifio’r cymeriadau.

Yn ein sesiwn VR, cafodd y dysgwyr gyfle i ymweld â garej Ceri Caradog yn y byd rhithiol. Ar ôl yr ymweliad, adroddodd y dysgwyr am eu profiadau yn Gymraeg gan ddefnyddio’r geirfa a’r patrymau newydd a ddysgwyd yn ystod yr wythnos. Roedd hyn yn gyfle gwerthfawr i ddatblygu eu hyder wrth siarad ac i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destun ystyrlon.

Fel rhan o’r gwaith creadigol, dyluniodd y dysgwyr declyn newydd ar gyfer siop gajets Cled. Yna, disgrifion nhw eu dyfeisiadau yn Gymraeg gan ddefnyddio geirfa briodol a brawddegau llawn. Roedd y gweithgaredd hwn yn gyfle gwych i gyfuno creadigrwydd â datblygu sgiliau iaith.

Yn y sesiynau celf, bu’r dysgwyr yn creu gwaith yn seiliedig ar eu hardal leol a’r lleoedd sy’n bwysig iddynt, gan efelychu gwaith yr arlunydd Rhiannon Roberts. Roedd y canlyniadau’n lliwgar ac yn greadigol, gan ddangos eu syniadau a’u personoliaethau unigryw.

Mae’n braf gweld y dysgwyr yn defnyddio mwy a mwy o Gymraeg bob dydd. Rydym yn hynod falch o’u hymdrechion, eu cynnydd a’u brwdfrydedd wrth ddysgu.

Cyfleoedd Dysgu Adref

  • Ymarfer defnyddio’r patrymau “Mae yna...” a “Does yna ddim...” wrth drafod adeiladau a mannau yn eich ardal leol.
  • Gofyn ac ateb cwestiynau fel “Ble mae’r siop?” neu “Ble mae’r parc?”.
  • Edrych ar fapiau a dod o hyd i leoedd cyfarwydd yn eich cymuned.
  • Enwi adeiladau a chyfleusterau wrth fynd am dro.
  • Darllen llyfrau Cymraeg a thrafod y geiriau newydd.
  • Dylunio a disgrifio teclyn newydd yn Gymraeg.
  • Ymarfer defnyddio geirfa lleoliadau a chyfarwyddiadau mewn sgyrsiau bob dydd.