Hafan | Blogiau Wythnosol | Blogiau Tymor yr Haf 2026 | Blog – Wythnos 4
Blog – Wythnos 4
Croeso i’r bedwaredd wythnos yn y canolfannau iaith!
Mae’r disgyblion wedi bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog gyda chyfleoedd parhaus i feithrin hyder yn y Gymraeg ac i ddatblygu eu sgiliau ieithyddol ar draws y cwricwlwm.
Uchafbwyntiau’r Wythnos
Ar ddechrau’r wythnos, bu’r dysgwyr yn dysgu’r berfenwau dyddiol ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol a gemau hwyliog i atgyfnerthu eu dealltwriaeth o’r berfenwau hyn.
Yr wythnos hon, dysgodd y plant yr arddodiaid trwy weithgareddau ymarferol, gemau rhyngweithiol a chanu gyda symudiadau. Roedd pob gweithgaredd yn rhoi cyfleoedd i ddysgu trwy brofiad, gan alluogi’r plant i brofi’r iaith a medru ei defnyddio mewn ffordd fywiog ac ymarferol.
Yn ogystal â gemau arddodiaid, defnyddiwyd amrywiaeth o weithgareddau llafar megis “Charades” a “Mae Seimon yn dweud…” i ymarfer y berfenwau. Cafodd y disgyblion lawer o fwynhad wrth gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn, ac roedd gwrando ar ‘draciau’r Wythnos’ hefyd yn gymorth i adnabod a chydnabod berfenwau mewn cyd-destun.
Bu’r disgyblion hefyd yn mwynhau ymweliad arbennig gan Gethin Tomos yn ystod yr wythnos. Cafwyd sesiynau drymio llawn hwyl yng Nghanolfan Iaith Maesincla a Chanolfan Iaith Porthmadog, gyda’r plant yn dysgu ac yn ymarfer patrymau iaith trwy gyfrwng rhythm a cherddoriaeth. Roedd y sesiynau’n fywiog ac yn gyfle gwych i ddatblygu hyder llafar mewn ffordd hwyliog ac ymarferol.
Yng Nghanolfan Iaith Porthmadog, cafodd y disgyblion gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu yn yr awyr agored, gan ddysgu mwy am yr ardal leol a defnyddio’r patrwm iaith “Mi welais i…” i ddisgrifio’r hyn roeddent wedi ei weld o’u cwmpas. Roedd y gweithgareddau hyn yn ffordd wych o gyfuno dysgu iaith gyda phrofiadau ymarferol ac archwilio’r gymuned leol.
Cafwyd ymweliad pellach â Fferm Tyddyn Swnllyd yn Aberwla yr wythnos hon, lle cyfarfu’r plant â chymeriad newydd, Wil Tomos. Bu’r disgyblion yn cymryd rhan mewn gemau bwrdd a gemau rhyngweithiol, yn ogystal â chwblhau tasgau ysgrifennu i ddisgrifio nodweddion y cymeriad. Roedd y sesiwn ddrama ar ddiwedd yr wythnos yn uchafbwynt i lawer, gyda’r plant yn cael cyfle i ymarfer a pherfformio drama mewn awyrgylch cefnogol a hwyliog. Cafodd y plant hefyd gyfle i ddysgu enwau anifeiliaid y fferm ac anifeiliaid gwyllt.
Yn ystod gwersi Mathemateg yr wythnos hon, cyflwynwyd her newydd i’r disgyblion, sef dechrau dysgu dweud yr amser yn Gymraeg. Cafodd y plant lawer o hwyl yn ymarfer drwy’r gêm “Faint o’r gloch ydy hi, Mistar Blaidd?”, gweithgaredd yn defnyddio cylchoedd mawr a rhifau ar y llawr fel cloc, gyda phlant yn gosod blociau lliwgar i nodi rhifau. Roedd y gweithgareddau hyn yn cyfuno dysgu gweledol, symudiadau corfforol, a chyfrif, gan wneud dysgu amser yn hwyliog, rhyngweithiol, ac ymarferol.
Bu’r wythnos yn un llawn dysgu a phrofiadau gwerthfawr i’r disgyblion ddatblygu eu sgiliau ieithyddol, cymdeithasol a gwybyddol.
Dyma gipolwg ar yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn y Ganolfan Drochi yr wythnos hon.
Mae’r wythnos hon wedi bod yn llawn o eiriau a phatrymau newydd.
- Arddodiaid
- Anifeiliaid
- Berfenwau
- Amser
Cyfleoedd Dysgu Adref
- Gwylio rhaglenni Cymraeg – Hafod Haul, Anifeiliaid Bach y Byd
- Cwis – “Ble mae’r...?”
- Edrychwch am anifeiliaid yn yr ardd neu wrth fynd am dro
- Defnyddio berfenwau i ddisgrifio beth maen nhw’n ei wneud ar ôl ysgol / dros y penwythnos
- Creu cloc papur
- Collage o lluniau o Cymerau - Blog Tymor yr Haf - 4
- Collage o lluniau o Maesincla - Blog Tymor yr Haf - 4
- Collage o lluniau o Porthmadog - Blog Tymor yr Haf - 4
- Collage o lluniau o Tryfan - Blog Tymor yr Haf - 4
- Collage o lluniau o Tywyn - Blog Tymor yr Haf - 4
- Collage o lluniau o Dolgellau - Blog Tymor yr Haf - 4






