Wythnos 9


Bu’r wythnos hon yr un mor brysur â’r wythnosau blaenorol yn y canolfannau iaith, gyda digon o chwerthin a dysgu yn llenwi pob diwrnod. Wrth i’r plant ymgolli mewn straeon newydd, cymeriadau lliwgar a gweithgareddau iaith bywiog, bu i’r plant barhau i ddysgu patrymau iaith newydd a mwynhau pob eiliad o’r profiad.

Bu i’r plant gyfarfod dau gymeriad newydd Aberwla, Lara Lewis – merch hynod gystadleuol sy’n caru rasio pawb a Barry Bale – bachgen cryf ond gwirion sy’n llwyddo i golli pob pêl yn y Ganolfan Hamdden… bob tro!

Un o uchafbwyntiau’r wythnos oedd darllen y stori hwyliog “Estrys Anti Nel a Lara ar Wib”. Bu’r plant yn gwrando’n astud ac yn ymateb i’r helyntion doniol a digwyddodd, gan ymarfer gwrando, siarad a defnyddio patrymau iaith newydd. Roedd pawb wrth eu bodd yn rhagfynegi beth fyddai’n digwydd nesaf, cyn symud ymlaen i amrywiaeth o weithgareddau a gemau hwyliog a oedd yn atgyfnerthu’r stori ac yn rhoi cyfle i’r plant ddefnyddio eu Cymraeg mewn ffordd ymarferol a chreadigol. Yn ogystal â’r holl weithgareddau cyffrous, bu’r plant yn creu posteri lliwgar a deniadol i hysbysebu Ras Fawr Aberwla. Gyda lliwiau llachar a syniadau gwreiddiol, roedd y posteri’n edrych yn wych ac yn dangos dychymyg arbennig y plant. 

Cafodd y plant gyfle hefyd i berfformio a sgriptio bwletin newyddion wedi’i seilio ar Ras Fawr Aberwla, gan cael y cyfle i weithio gyda’i gilydd i greu syniadau, chwarae rolau gwahanol a dod â’u cyflwyniadau’n fyw. Roedd digon o chwerthin drwy gydol y gweithgaredd, a bu’r plant yn defnyddio’u Cymraeg yn hyderus ac yn rhwydd.

Yn ystod y sesiwn VR yn y canolfannau pontio cynradd/ uwchradd, cafodd y plant gyfle i ymweld â’r Ganolfan Hamdden, gan ail-ymweld â geirfa chwaraeon a phatrymau mynegi barn. Roedd hyn yn gyfle gwych i ymarfer iaith mewn sefyllfa ymarferol, defnyddio geirfa newydd a phatrymau iaith, ac cryfhau hyder wrth sgwrsio am chwaraeon a gweithgareddau corfforol.

Mae’r plant wedi mwynhau wythnos o antur, creadigrwydd a dysgu Cymraeg mewn ffordd hwyliog. Rydym yn hynod falch o bob un ohonynt ac yn edrych ymlaen at barhau’r hwyl yn ein wythnos olaf wythnos nesaf.  

Dyma gipolwg ar hyn rydyn ni wedi bod yn ei wneud yr wythnos hon. 

Mae’r wythnos hon wedi bod yn llawn o eiriau a phatrymau newydd.  

  • Diddordebau (Dw i’n mwynhau... Dydw i ddim yn mwynhau...) 
  • Hoff bethau 
  • Geirfa newydd sy’n codi o’r stori 
  • Mathemateg – Siapiau 2D a 3D 

Cyfleoedd Dysgu Adref 

  • Ymarfer ac adnabod siapiau yn y byd go-iawn. 
  • Mynd am dro ac adnabod siapiau 
  • Gwylio rhaglenni Cymraeg 
  • Gwrando i gerddoriaeth Cymraeg