Wythnos 8


Mae’r wythnos hon unwaith yn rhagor wedi bod yn un prysur a hwyliog yn y canolfannau iaith. Mae’r plant wedi mwynhau’r gweithgareddau amrywiol ac mae’n braf eu gweld yn parhau  i ddatblygu mewn hyder a rhuglder wrth ddefnyddio’r Gymraeg.

Cafodd y plant gyfle yr wythnos hon i gyfarfod â rhagor o gymeriadau newydd Aberwla – Gwen, Bob a Gari a bûm yn dilyn hynt a helyntion Bob ‘bach yn y stori, ‘Y Corwynt.’ Bu cyfleodd cyson i ymarfer eu patrymau iaith drwy amrywiaeth o gemau iaith.

Bu’r plant yn ymweld â’r orsaf dywydd yr wythnos hon yn ystod y sesiynau VR yn y canolfannau pontio cynradd / uwchradd a bu’n gyfle i ail ymweld â iaith gyfarwyddiadol a geirfa’r tywydd mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol. Bu rhai o’r canolfannau iaith cynradd yn creu arbrofion hwyliog – yn cynnwys creu corwynt mewn jar a rhai o’r canolfannau eraill yn chwarae rôl -cyflwynwyr tywydd.

Cynhaliwyd gweithdai arbennig yn y tair canolfan pontio cynradd / uwchradd gyda’r rapiwr Ed Holden. Cafodd y plant gyfle i fod yn rhan o brosiect LleCHI LleNI, Llechi Cymru, i godi ymwybyddiaeth a magu diddordeb yn hanes y diwydiant llechi, a dynodiad Safle Treftadaeth y Byd Gogledd Orllewin Cymru. Bu’r plant yn dysgu am ddiwydiant chwareli yng Ngwynedd, gan gael cipolwg ar ei hanes a’i bwysigrwydd i’r ardaloedd lleol. Dysgodd y plant sgiliau bît bocsio, chawson nhw’r profiad hefyd o gyfansoddi trac unigryw fel dosbarth.

Rydym mor falch o ymdrechion a brwdfrydedd holl ddysgwyr y canolfannau ac edrychwn ymlaen at rhagor o ddysgu iaith yr wythnos nesaf!

Mae’r wythnos hon wedi bod yn llawn o eiriau a phatrymau newydd.  

  • Cwestiynau trydydd person – Ble aeth..? Beth welodd..? Beth wnaeth...? Beth gafodd..? Beth glywodd...? 
  • Geirfa newydd o’r stori 
  • Rhagolygon y Tywydd 
  • Disgrifio Cymeriad 
  • Terminoleg Mesur 

Cyfleoedd Dysgu Adref 

  • Mesur gwrthrychau o gwmpas y tŷ 
  • Trafod y tywydd 
  • Gwylio rhagolygon y tywydd o holi beth maen nhw’n ei weld neu ei glywed yn Gymraeg 
  • Gemau  
  • Gwylio rhaglenni Cymraeg 
  • Gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg