Wythnos 7


Uchafbwyntiau’r Wythnos

Mae’r wythnos hon unwaith yn rhagor wedi bod yn llawn dysgu, hwyl a chwerthin yn ein canolfannau.

Thema’r wythnos hon oedd bwyd a diod, a chafodd y plant gyfleoedd i ddatblygu eu geirfa a’u patrymau iaith drwy weithgareddau rhyngweithiol fel canu, chwarae rôl, gemau iaith a drama. Roedd y gweithgareddau hyn yn creu cyfleoedd naturiol i’r plant ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destunau ystyrlon yn ogystal â datblygu eu hyder i gyfathrebu yn Gymraeg.

Cyflwynwyd rhagor o enwau bwydydd newydd yn Gymraeg drwy brofiadau ymarferol, ynghyd â chyfle i ddysgu am ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi.

Cafodd y plant sesiwn blasu “Wyt ti’n hoffi…?” a chawson nhw gyfle i flasu gwahanol ffrwythau, a bwydydd gwahanol wrth  ymateb i’r cwestiwn “Wyt ti’n hoffi…?” a dweud yn uchel beth oedden nhw’n ei hoffi a beth nad oedden nhw’n ei hoffi, gan ddefnyddio’r patrymau iaith newydd: “Rydw i’n hoffi… achos mae o’n…” neu “Dydw i ddim yn hoffi… achos mae o’n…”.

Bu llawer o chwerthin wrth i’r plant brofi blasau gwahanol, gyda wynebau doniol yn ymddangos wrth flasu sudd lemwn ffres neu ddarn bach o grawnffrwyth! Roedd y sesiwn yn ffordd hwyliog a bywiog o ymarfer y Gymraeg a blasu amrywiaeth o fwydydd ar yr un pryd. Roedd rhai o’r plant hyd yn oed yn awyddus i ailadrodd y sesiwn gyda rhagor o ffrwythau!

Yn y sesiwn rhifedd, dysgodd y plant dermau newydd fel punnoedd, ceiniogau a cyfanswm, a chreu rhestrau siopa. Cafwyd hefyd gyfle i chwarae rôl yn Deli Aberwla, lle’r oedd y plant yn cymryd tro fel cwsmeriaid a gwerthwyr, gan ddefnyddio’r Gymraeg i drafod prisiau a chyfrifo arian mewn sefyllfaoedd ymarferol.

Yn y sesiynau drama, bu’r plant yn perfformio deialog ddoniol “Ysbrydion Drwg”, lle’r roedd ysbrydion yn ceisio dychryn pawb yn Siop Bob Dim, Aberwla.

Cafodd y plant brofiad rhyngweithiol wrth ddysgu’r 5 Synnwyr yn Gymraeg, gan ganolbwyntio ar weld, clywed, teimlo, blasu ac arogl gyda chyfleoedd i ddyfalu beth oedd yn y bocs, gan hybu chwilfrydedd a sylw manwl. Dysgodd y plant hefyd drefnolion a gorchmynion, gan eu defnyddio’n naturiol wrth flasu, chwarae gemau a dilyn cyfarwyddiadau.

I gloi’r wythnos, paratowyd salad ffrwythau lliwgar gyda’i gilydd, gan ddefnyddio’r eirfa newydd i greu a dilyn cyfarwyddiadau wrth baratoi’r bwyd – ffordd fywiog, hwyliog a naturiol o ymarfer y Gymraeg!

Diolch i bawb am eu brwdfrydedd ac ymdrech yr wythnos hon. Rydym ni yn edrych ymlaen at yr wythnos nesaf!   

Dyma gipolwg ar hyn rydyn ni wedi bod yn ei wneud yr wythnos hon. 

Mae’r wythnos hon wedi bod yn llawn o eiriau a phatrymau newydd.  

  • Enwau bwyd a diod 
  • Patrymau Mynegi barn – Rydw i’n hoffi...achos mae o’n.. / Dydw i ddim yn hoffi...achos mae o’n... 
  • 5 Synnwyr 
  • Trefnolion 
  • Gorchmynion 
  • Patrymau disgrifio cymeriad 
  • Arian 

Cyfleoedd Dysgu Adref 

  • Chwarae rôl – siop, caffi 
  • Ymarfer mynegi barn yn syml 
  • Paratoi bwyd 
  • Trafod arian – trip i’r siop neu ymarfer yn y tŷ 
  • Creu rhestr siopa