Hafan | Blogiau Wythnosol | Blogiau Tymor y Gwanwyn 2026 | Wythnos 6
Wythnos 6
Uchafbwyntiau’r Wythnos
Mae wythnos 6 wedi bod yn brysur iawn i’r plant! Rydyn ni wedi bod yn dysgu am ein cynefin a’r hyn sydd i'w weld yn ein bro- yr adeiladau ac ardaloedd o bwysigrwydd.
Dysgodd y plant eirfa benodol yn ymwneud â’r ardal a chafwyd hefyd gyfle i ymweld â ag adeiladau Aberwla. Bûm yn dysgu iaith cymharu yn ogystal â iaith gyfarwyddiadol.
Cyflwynwyd dau gymeriad newydd – Ceri a Cled, ynghyd â Jeff y ci yn ogystal â stori ‘ Y drôn a Huwi Twmff.’
Yn ein sesiwn VR, bu’r plant yn y canolfannau pontio Blwyddyn 5–9 yn cyfarfod â Cled a phrynu camera yn y siop technoleg. Defnyddiodd Cled y camera i dynnu lluniau o wahanol leoliadau yn y byd rhithiol Aberwla, tra oedd y plant yn archwilio’r lleoedd gyda’i gilydd.
Yn y sesiwn gelf, cafodd y plant eu hysbrydoli gan arlunwyr o Gymru sy’n dangos harddwch eu cymuned leol yn eu gwaith. Bu'r plant yn brysur yn creu paentiadau lliwgar a phersonol tra’n defnyddio’r geirfa tirwedd newydd a ddysgwyd yn ystod yr wythnos.
I gloi’r wythnos, bûm am dro o gwmpas ein milltir sgwâr i weld yr adeiladau a’r llefydd roedden ni wedi bod yn dysgu amdanynt yn ystod yr wythnos. Roedd y plant wedi mwynhau'r teithiau cerdded yn fawr iawn.
Mae’r plant bellach yn dangos hyder cynyddol bob dydd, ac rydyn ni’n hynod falch o’u hymdrechion a’u brwdfrydedd.
Dyma gipolwg ar ein gweithgareddau’r wythnos hon.
Mae’r wythnos hon wedi bod yn llawn o eiriau a phatrymau newydd.
- Adeiladau / Mannau mewn pentref neu dref
- Adolygu arddodiaid
- Misoedd y Flwyddyn
- Cyfarwyddiadau
- Pwyntiau’r Cwmpawd
- Geirfa Celf
- Geirfa newydd sy’n codi mewn stori
Cyfleoedd Dysgu Adref
- Ymarfer misoedd y flwyddyn – darllen calendr
- Mynd am dro – enwi adeiladau
- Edrych ar fapiau ac adnabod mannau
- Darllen
- Gwaith Celf




