Wythnos 5


Uchafbwyntiau’r Wythnos

Am wythnos brysur dros ben! Mae’r canolfannau iaith  wedi parhau i fod yn llawn bwrlwm a gweithgareddau hwyliog wrth barhau â’u taith yn dysgu Cymraeg.

Yr wythnos hon, dysgodd y plant enwau anifeiliaid y fferm a’r sŵ, gan gynnwys rhannau o gorff yr anifeiliaid hyn.  Roedd pawb wrth eu bodd yn disgrifio anifeiliaid mawr a bach, a chawsom lawer o hwyl gyda’r gemau dyfalu! Gwrandawodd y plant yn ofalus ar gliwiau ac roeddent yn awyddus i ddyfalu pa anifail oedd yn cael ei ddisgrifio.

Cafodd y plant hefyd gyfle i fod yn greadigol a chreu eu hanifeiliaid rhyfedd eu hunain, gyda rhai yn cyfuno pen eliffant gyda chorff pysgodyn ac eraill hyd yn oed yn rhoi adenydd i fochyn! Cafwyd trafodaethau gwych am sut i ddisgrifio’r creaduriaid hyn gan ddefnyddio ansoddeiriau.

Cyflwynwyd amrywiaeth o ansoddeiriau i'r plant trwy ganu canu a digon o symud. Roedd y dosbarth yn llawn chwerthin, symud a cherddoriaeth – ffordd berffaith o atgyfnerthu’r iaith.

Yn ystod y sesiynau rhifedd, bu’r plant yn dysgu siapiau am rinweddau 2D a 3D yn Gymraeg.

Cyflwynwyd y stori ‘Y Crocodeil Coll’  i'r plant, a bu pawb wrth eu bodd yn clywed am anturiaethau Carwyn y crocodeil! Dysgodd y plant eirfa newydd ac ar ôl darllen, cafodd pawb gyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau iaith.

Yn ystod y sesiwn VR, bu’r dysgwyr ar daith rithiol o amgylch y goedwig a’r fferm yn Aberwla, gan roi sylw manwl i ddysgu'r patrwm iaith ‘Dw I'n gallu gweld’ a ‘Mi welais I'...yn ogystal â geirfa natur yn Gymraeg.

Mae’r wythnos hon unwaith yn rhagor wedi bod yn llawn geiriau a phatrymau newydd.  

  • Disgrifio anifeiliaid / Rhannau corff anifeiliaid 
  • Ansoddeiriau i ddisgrifio anifeiliaid 
  • Terminoleg Amser 
  • Geirfa newydd o’r stori 

Cyfleoedd Dysgu Adref 

  • Mynd am dro ac adnabod anifeiliaid – Disgrifio yr anifeiliaid 
  • Gêm ‘Pwy ydw i?’ i ddyfalu anifeiliaid 
  • Creu anifail rhyfedd  
  • Ymarfer yr amser