Wythnos 4


Mae’r disgyblion wedi bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog gyda chyfleoedd parhaus i feithrin hyder yn y Gymraeg ac i ddatblygu eu sgiliau ieithyddol ar draws y cwricwlwm.

Uchafbwyntiau’r Wythnos

Ar ddechrau’r wythnos, bu’r dysgwyr yn dysgu’r berfenwau dyddiol ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol a gemau hwyliog i atgyfnerthu eu dealltwriaeth o’r berfenwau hyn.

Yr wythnos hon, dysgodd y plant yr arddodiaid trwy weithgareddau ymarferol, gemau rhyngweithiol a chanu gyda symudiadau. Roedd pob gweithgaredd yn rhoi cyfleoedd i ddysgu trwy brofiad, gan alluogi’r plant i brofi’r iaith a medru ei defnyddio mewn ffordd fywiog ac ymarferol.

Yn ogystal â gemau arddodiaid, defnyddiwyd amrywiaeth o weithgareddau llafar megis “Charades” a “Mae Seimon yn dweud…” i ymarfer y berfenwau. Cafodd y disgyblion lawer o fwynhâd wrth gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn, ac roedd gwrando ar ‘draciau’r Wythnos’ hefyd yn gymorth i adnabod  berfenwau mewn cyd-destun gwahanol.

Cafwyd ymweliad pellach â Fferm Tyddyn Swnllyd yn Aberwla yr wythnos hon, lle cyfarfu’r plant â chymeriad newydd, Wil Tomos. Bu’r disgyblion yn cymryd rhan mewn gemau bwrdd a gemau rhyngweithiol yn ogystal â chwblhau tasgau ysgrifennu i ddisgrifio nodweddion y cymeriad.

Roedd y sesiwn ddrama ar ddiwedd yr wythnos yn uchafbwynt i lawer, gyda’r plant yn cael cyfle i ymarfer a pherfformio drama mewn awyrgylch cefnogol a hwyliog. Cafodd y plant hefyd gyfle i ddysgu enwau anifeiliaid y fferm ac anifeiliaid gwyllt.

Unwaith eto yr wythnos hon, roedd y defnydd o dechnoleg VR yn brofiad gwerthfawr i’r disgyblion. Cafodd y plant gyfle i fynd ar daith rithiol o gwmpas y fferm, gan ddefnyddio patrymau iaith yr wythnos i ddisgrifio’r hyn yr oeddent yn ei weld o’u cwmpas.

Yn ystod y sesiynau rhifedd yr wythnos hon, cyflwynwyd her newydd i’r disgyblion, sef dechrau dysgu dweud yr amser yn Gymraeg. Cafodd y plant lawer o hwyl yn ymarfer drwy’r gêm “Faint o’r gloch ydy hi, Mistar Blaidd?”, gweithgaredd yn defnyddio cylchoedd mawr a rhifau ar y llawr fel cloc, gyda phlant yn gosod blociau lliwgar i nodi rhifau. Roedd y gweithgareddau hyn yn cyfuno dysgu gweledol, symudiadau corfforol, a chyfrif, gan wneud dysgu amser yn hwyliog, rhyngweithiol, ac ymarferol.

Bu’r wythnos yn un llawn dysgu a phrofiadau gwerthfawr  i’r disgyblion ddatblygu eu sgiliau ieithyddol, cymdeithasol a gwybyddol.

Dyma gipolwg ar yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn y Ganolfan Drochi yr wythnos hon.

Mae’r wythnos hon wedi bod yn llawn o eiriau a phatrymau newydd.  

  • Arddodiaid 
  • Anifeiliaid 
  • Berfenwau 
  • Amser 

Cyfleoedd Dysgu Adref 

  • Gwylio rhaglenni Cymraeg – Hafod Haul, Anifeiliaid Bach y Byd 
  • Cwis – Ble mae’r...? 
  • Edrychwch am anifeiliaid yn yr ardd neu wrth fynd am dro. 
  • Defnyddio berfenwau i ddisgrifio beth maen nhw’n ei wneud ar ôl ysgol / dros y penwythnos. 
  • Creu cloc papur