Hafan | Blogiau Wythnosol | Blogiau Tymor y Gwanwyn 2026 | Wythnos 3
Wythnos 3
Uchafbwyntiau’r Wythnos
Bu’r wythnos hon yn llawn gweithgareddau creadigol, gyda’r hwyl yn parhau yn y canolfannau. Dysgodd y disgyblion enwi rhannau’r corff drwy amrywiaeth o weithgareddau a chafodd y dysgwyr gyfle hefyd i ddysgu geirfa dillad a defnyddio patrymau iaith mewn cyd-destunau trawsgwricwlaidd.
Dysgodd y plant enwau’r dillad ynghyd â iaith gyfarwyddiadol i wisgo rhai o gymeriadau Aberwla. Yn ogystal â hyn, cynlluniodd a dyluniodd y plant wisgoedd i’w cymeriadau eu hunain – ffordd wych o hybu creadigrwydd a datblygu dealltwriaeth o ddilyn cyfarwyddiadau aml gam.
Cafwyd cyflwyniad i dref ddychmygol Aberwla, lle bu’r dysgwyr yn ymarfer eu sgiliau iaith drwy ddysgu am ddau gymeriad, Aron a Beca. Anogwyd y disgyblion i ddisgrifio personoliaethau a nodweddion y cymeriadau a chafodd y dysgwyr yn y canolfannau pontio cynradd / uwchradd gyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau ysgrifenedig wrth ddisgrifio’r cymeriadau. Atgyfnerthwyd yr iaith ddisgrifiadol y dysgwyr ymhellach wrth i'r plant ddysgu sut i recordio eu gwaith llafar ar ap, gan roi llais i bob disgybl fel cymeriad arall. Roedd hyn yn cynnig cyfle gwerthfawr i ymarfer sgiliau cyfathrebu a datblygu hyder wrth siarad mewn sefyllfa hwyliog a dychmygus.
Yn y sesiynau rhifedd, cyflwynwyd rhai o brif derminoleg sylfaenol rhifedd a chafodd y plant gyfle i ymarfer eu sgiliau cyfrifo mewn modd hwyliog a rhyngweithiol a hynny i gyd drwy’r Gymraeg!
Cafodd dysgwyr y canolfannau pontio cynradd–uwchradd gyfle i ail-ymweld ac ymarfer patrymau iaith drwy fynd ar daith rithiol o amgylch fferm Tyddyn Swnllyd gan ddefnyddio VR – profiad a roddodd gyd-destun realistig iddynt ddefnyddio’r iaith.
Bu’r wythnos yn llawn hwyl, dysgu a chreadigrwydd, gyda chyfleoedd cyson i’r plant ddatblygu a chymhwyso eu sgiliau iaith ymhellach.
Mae’r wythnos hon wedi bod yn llawn o eiriau a phatrymau newydd.
- Rhannau’r Corff - braich, ysgwydd, bys, bawd, coes, troed, penelin, pen-glin, cefn, pen ôl, bol, botwm bol, gwddf
- Dillad - blows, cap, cot, crys, crys-T, crys isaf, esgidiau, bŵts, ffedog, gwasgod, het, menyg, sgarff, skert, siaced, teits, trowsus, ymbarél, siwmper ysgol, crys polo
- Ansoddeiriau Dillad -lliwiau, meddal, hir, byr, lliwgar, llachar, streipïog
- Patrymau iaith gwisgo a disgrifio dillad.
- Rydw i’n gwisgo ______. / Dydw i ddim yn gwisgo ______.
- Wyt ti’n gwisgo ______? / Ydw / Nac ydw
- Beth mae ______ yn ei wisgo? Mae ______ yn gwisgo ______ o ______.
Dylunio a Chreu
- dylunio, creu, syniad, papur, bagiau plastig, boteli plastig, ailgylchu, mesur, torri
- Dylunio gwisg i gymeriad, defnyddio deunyddiau ailgylchu, cynnal sioe ffasiwn
Y Teulu
- Brawd / brodyr, chwaer / chwiorydd
- Oes gen ti frawd / chwaer? Oes / Nac oes
- ______ ydy o / hi / ydyn nhw
Meddiant a phatrymau iaith:
- Mae gen i ______. / Does gen i ddim ______.
Mathemateg
- dwbl, hanner, mwy na, llai na, adio, tynnu, lluosi, rhannu
- Beth ydy dwbl / hanner ______? Pa rif ydy’r mwyaf / lleiaf?
Cyfleoedd Dysgu Adref – Wythnos 3
- Rhannau’r Corff: Dysgwch enwau rhannau’r corff fel braich, ysgwydd, bys, troed a bol.
- Dillad a Disgrifio Dillad: Sgwrsio am ddillad, defnyddiwch brawddegau syml fel “Rydw i’n gwisgo…” a “Beth mae o’n gwisgo?”.
- Dylunio a Chreu: Creu a dylunio gwisg i gymeriad gan ddefnyddio papur neu ddeunyddiau ailgylchu.
- Y Teulu a Meddiant: Sgwrsio am ffrindiau a theulu a defnyddio “Mae gen i…” neu “Does gen i ddim…”.
- Mathemateg: Defnyddio geirfa fel dwbl, hanner, mwy na, llai na a rhoi enghreifftiau syml gyda rhifau.






