Hafan | Blogiau Wythnosol | Blogiau Tymor y Gwanwyn 2026 | Wythnos 2
Wythnos 2
Mae’r dysgwyr yn parhau i fagu hyder ar eu hail wythnos o ddysgu Cymraeg.
Uchafbwyntiau’r Wythnos
Bu’r disgyblion yn ail-ymweld â phatrymau iaith yr wythnos gyntaf, gan eu defnyddio mewn tasgau newydd ar draws gwahanol feysydd dysgu, gan gynyddu eu hyder wrth siarad.
Bu’r dysgwyr yn dysgu enwau rhannau’r wyneb drwy ailadrodd symudiadau, canu a chwarae gemau. Cafwyd llawer o hwyl wrth dynnu lluniau doniol drwy gyfuno rhannau’r wyneb ag ansoddeiriau syml. Dysgodd y disgyblion batrymau iaith i ddisgrifio eu hunain, ac roedd gweithgaredd y gadair goch yn cynnig cyfle i’r plant ymarfer gofyn ac ateb cwestiynau. Roedd hi’n braf iawn eu gweld yn cyfathrebu’n hyderus gyda’u cyfoedion.
Yn ystod sesiynau rhifedd, bu’r dysgwyr yn ail-ymweld ac yn adolygu’r rhifau a’r symbolau rhifedd, gan ymarfer cyfrif yn Gymraeg drwy gemau llafar rhyngweithiol.
Dysgodd y plant ddyddiau’r wythnos a’r tywydd yn Gymraeg drwy ganu a chwarae gemau ac yn ddiweddarach yn yr wythnos, bu’r plant yn dechrau defnyddio’r geirfa a’r patrymau iaith hyn drwy gymryd rhan mewn sgwrsio sydyn boreol a dechrau cymryd cyfrifoldeb dros arwain y dysgu.
Cafodd y dysgwyr fwynhau sesiwn rhyngweithiol VR yn y canolfannau pontio cynradd/uwchradd, ble y bu iddynt ymweld gan ychwanegu elfen gyffrous a deniadol at eu profiadau iaith.
Dyma gipolwg ar rai o weithgareddau’r wythnos.
Mae’r wythnos hon wedi bod yn llawn o eiriau a phatrymau newydd.
- Gorchmynion: Ewch allan i chwarae, Edrychwch, Ysgrifennwch, Gwrandewch, Eisteddwch
- Dyddiau’r Wythnos a phatrymau iaith: Pa ddiwrnod ydy hi heddiw? Mae hi’n ______. / Pa ddiwrnod oedd hi ddoe? Roedd hi’n ______. / Pa ddiwrnod oedd hi echdoe? Roedd hi’n ______.
- Tywydd a phatrymau iaith: Sut dywydd ydy hi heddiw? Mae hi’n ______. / Dydy hi ddim yn ______. / Sut dywydd oedd hi ddoe? Roedd hi’n ______. / Sut dywydd oedd hi echdoe? Roedd hi’n _____
- Rhannau’r Corff – Yr Wyneb a phatrymau iaith: Mae gen i ______. / Does gen i ddim ______. / Oes gen ti ______? / Oes, mae gen i ______. / Nac oes, does gen i ddim ______.
Cyfleoedd Dysgu Adref
- Rhannu Teimladau: sgwrsio am deimladau, llun neu gerdyn i ddangos teimladau.
- Gwrando ar Gerddoriaeth Cymraeg: gwrando, canu, symud, holi am eirfa syml.
- Lliwio neu Baentio: lliwio lluniau wynebau, creu lluniau tywydd, defnyddio lliwiau i ddangos teimladau.
- Defnydd arall gartref: gemau syml gyda rhifau/eirfa, dweud bore da / nos da, defnyddio geirfa wythnosol.






