Hafan | Blogiau Wythnosol | Blogiau Tymor y Gwanwyn 2026 | Wythnos 10
Wythnos 10
Croeso i flog wythnosol y canolfannau iaith a chofnod olaf y tymor hwn. Mae hi wedi bod yn hyfryd gweld cynnydd ieithyddol arbennig ymhlith dysgwyr y canolfannau iaith.
Uchafbwyntiau’r Wythnos
Cafwyd llawer o hwyl yn dysgu am dri chymeriad newydd yr wythnos hon, sef Puw Panad, Olwen a Llywelyn Llwyd.
Bu’r dysgwyr yn mwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol drwy ddrama, chwarae rôl a gemau hwyliog. Trwy’r gweithgareddau hyn, cafwyd cyfle i ddatblygu’r Gymraeg mewn ffordd fywiog a chyffrous, gan roi’r iaith ar waith mewn sefyllfaoedd go iawn.
Búm hefyd yn darllen y stori hynod ddifyr “Drych yr Amgueddfa” gyda gemau iaith amrywiol i ddilyn.
Doedd dim prinder o chwerthin wrth i’r plant berfformio drama’r wythnos o’r enw “Problem Puw Paned”. Yn y ddrama, mae Puw yn archebu rhywbeth melys gan Mr Bowen… ond drwy wall doniol iawn mae Kit-Kat bendigedig yn cael ei gymysgu gyda bwyd cath Kit-e-Kat! Roedd perfformiadau’r plant yn llawn egni, doniau actio a chwerthin di-ben-draw. Mae’n siŵr bod pawb wedi mynd adref yn llawn hwyl a stori neu ddwy i’w rhannu!
Cafwyd wythnos olaf llawn dathlu llwyddiannau’r plant, gydag atgofion melys, chwerthin a gemau wrth fyfyrio ar uchafbwyntiau’r tymor. Wrth iddynt ddychwelyd i’w hysgolion, dymunwn bob lwc i bawb ar barhád eu taith i ddysgu’r Gymraeg.
- casgliad o ddelweddau o ddisgyblion Ysgol eifionydd yn dal eu tystysgrifau
- casgliad o ddelweddau o ddisgyblion Ysgol cymerau yn dal eu tystysgrifau
- casgliad o ddelweddau o ddisgyblion Ysgol Cymerau yn gwneud crefftau Pasg
- casgliad o ddelweddau o ddisgyblion Ysgol Tryfan yn dal eu tystysgrifau
- casgliad o ddelweddau o ddisgyblion Ysgol Dolgellau yn chwarae gemau
- casgliad o ddelwedd Ysgol Maesincla ymlaen yno diwrnod olaf
- Ysgol Tywyn pupils holding a 'Chwilio am chwid' poster
- Dau ddisgybl yn peintio








