Hafan | Blogiau Wythnosol | Blogiau Tymor y Gwanwyn 2026 | Wythnos 1
Wythnos 1
Uchafbwyntiau’r Wythnos
Roedd hi’n bleser croesawu ein criw newydd i’r canolfannau iaith yr wythnos hon. Bu pawb yn brysur iawn ac erbyn hyn mae’r plant wedi dechrau dod i adnabod ei gilydd a meithrin cyfeillgarwch newydd. Trwy gydol yr wythnos, cafodd y grŵp gyfle i ddysgu ac ymarfer amryw elfennau o’r Gymraeg, gan gymryd eu camau cyntaf ar ddechrau eu taith iaith.
Yn ystod y sesiynau iaith, cafodd y plant gyflwyniad i’r wyddor Gymraeg, gan ddefnyddio amrywiaeth o ymarferion i feithrin eu gallu i adnabod a chofio llythrennau a phatrymau iaith, gan gynnwys gemau a gweithgareddau symud. Cawsant hefyd gyfle i ddysgu’r cyfarchion a chymryd rhan mewn gemau iaith i ymarfer ateb cwestiynau syml amdanynt eu hunain – ffordd wych o ddod i adnabod ei gilydd yn well.
Cafodd y plant gyfle i ymarfer geirfa sy’n ymwneud â bwyd, gan gynnwys brecwast a chinio, a dysgu sut i ofyn “Ga’ i…?” i’w gilydd, gan feithrin ymdeimlad o gyfrifoldeb dros eu dewisiadau. Yn ystod y sesiynau celfyddydau mynegiannol, bu’r plant yn dysgu enwau’r lliwiau yn Gymraeg, yn gofyn cwestiynau ac yn mwynhau cymysgu lliwiau drwy amrywiaeth o weithgareddau celf amrywiol.
Tuag at ddiwedd yr wythnos, cafodd y plant gyfle i ddyfnhau eu dealltwriaeth o Gymru a’n hunaniaeth fel Cymry. Cafodd y plant gyflwyniad i enwogion Cymraeg a Chymreig, gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg a blasu bwydydd traddodiadol megis cacen gri a bara brith. Roedd y profiadau hyn yn ffordd gyffrous a chofiadwy o ddysgu am ddiwylliant Cymru, gan gymryd rhan mewn gweithgareddau hwyl a difyr ar yr un pryd.
Dyma gipolwg ar rai o weithgareddau’r wythnos.







