Hafan | Siarter Iaith | Newyddion a Digwyddiadau | Gornest Lyfrau
Gornest Lyfrau
Beth yw Gornest Lyfrau?
Mae gwefan Cyngor Llyfrau Cymru yn disgrifio Gornest Lyfrau fel cystadleuaeth ddarllen hwyliog sy’n annog plant i fwynhau llyfrau, cydweithio fel tîm, a chyflwyno eu syniadau mewn ffordd greadigol.
Rowndiau Rhanbarthol Gornest Lyfrau
Yn ystod hanner cyntaf tymor yr haf, bu ysgolion cynradd ac uwchradd ledled y sir yn cymryd rhan yn rowndiau rhanbarthol cystadleuaeth flynyddol Gornest Lyfrau.
Beth yw’r Gornest Lyfrau?
Mae’r Gornest Lyfrau yn gystadleuaeth ddarllen flynyddol i ddisgyblion Blwyddyn 3–8, sy’n annog pobl ifanc i fwynhau darllen er pleser. Mae’r dysgwyr yn trafod llyfr o’u dewis ac yn cydweithio i greu fideo creadigol yn seiliedig ar un o deitlau’r rhestr ddarllen swyddogol.
Un o’r camau pwysicaf yn y gystadleuaeth yw dewis y llyfr cywir. Gydag amrywiaeth eang o deitlau gwych, mae’n hanfodol i'r tîm ddewis llyfr sy’n eu hysbrydoli.
Fformat y Gystadleuaeth
Mae pob tîm yn cystadlu mewn dwy her ranbarthol:
-
Y Rownd Drafod — cyfle i ddisgyblion archwilio a thrafod themâu, cymeriadau a digwyddiadau’r llyfr a ddewiswyd.
-
Hysbyseb Fideo — cynhyrchu hysbyseb fideo greadigol ac apelgar i hyrwyddo’r llyfr.
Cynhelir y rownd derfynol yn Aberystwyth ym mis Mehefin, lle mae timau’n cynrychioli’r sir, yn trafod llyfrau, yn mynychu gweithdy awdur ac yn gwylio eu hysbysebion ar y sgrin fawr. Mae’r ysgolion buddugol yn derbyn tlws arbennig ynghyd ag un o’r gwobrau canlynol:
-
1af – £200 o lyfrau
-
2il – £150 o lyfrau
-
3ydd – £100 o lyfrau
Prif Fanteision
-
Annog plant i syrthio mewn cariad â darllen.
-
Datblygu agweddau cadarnhaol tuag at lyfrau.
-
Cefnogi llythrennedd emosiynol a sgiliau trafod, cyfathrebu a dadansoddi.
-
Cyd-fynd â gofynion y Cwricwlwm drwy gynnig gweithgareddau unigol a grŵp ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad.
-
Hyrwyddo llyfrau, awduron ac arlunwyr.
-
Dathlu safonau rhagorol mewn llenyddiaeth plant.
Roedd yn hyfryd gweld cymaint o frwdfrydedd, ac yn fraint gwrando ar y disgyblion yn trafod llyfrau Cymraeg gyda chymaint o lawenydd a chyffro. Roedd y safon yn arbennig o uchel eleni, gan wneud y gystadleuaeth yn un hynod o agos.
Canlyniadau 2026
Blwyddyn 3 a 4
1af – Ysgol Waunfawr
2il – Ysgol y Gelli
3ydd – Ysgol Crud y Werin
Blwyddyn 5 a 6
1af – Ysgol Cymerau
2il – Ysgol Waunfawr
Cyd 3ydd – Ysgol Abererch / Ysgol y Gelli
Blwyddyn 7 ac 8
1af – Ysgol Tryfan
2il – Ysgol Brynrefail
Cyd 3ydd – Ysgol Botwnnog / Ysgol Syr Hugh Owen
Pob lwc i Ysgol Cymerau, Ysgol Waunfawr ac Ysgol Tryfan yn Aberystwyth — rydym yn hynod falch ohonoch.
- myfyrwyr Ysgol Cymerau
- myfyrwyr Ysgol Abererch
- myfyrwyr Ysgol Abererch
- myfyrwyr Ysgol y Gelli
- myfyrwyr Ysgol y Gelli
- myfyrwyr Ysgol y Gelli
- myfyrwyr Ysgol y Gelli
- myfyrwyr ysgol y gelli
- myfyrwyr ysgol yr hendre
- myfyrwyr Ysgol Llandygai
- Myfyrwyr Ysgol Waunafwr
- Myfyrwyr Ysgol Waunafwr
- myfyrwyr Ysgol Crud y werin
- myfyrwyr Ysgol Crud y werin
- myfyrwyr Ysgol Pennal
- myfyrwyr Ysgol Pennal
- myfyrwyr Ysgol Corris

















