Wythnos 9


Bu’r wythnos hon yr un mor brysur â’r wythnosau blaenorol yn y canolfannau iaith, gyda digon o chwerthin a dysgu yn llenwi pob diwrnod. Roedd y plant yn ymgolli mewn straeon newydd, cymeriadau lliwgar a gweithgareddau iaith bywiog, gan barhau i ddysgu patrymau iaith newydd a mwynhau pob eiliad o’r profiad.

Cafodd y plant gyfle i ddod i adnabod dau gymeriad newydd o Aberwla: Lara Lewis – merch hynod gystadleuol sy’n caru rasio pawb – a Barry Bale – bachgen cryf ond gwirion sy’n llwyddo i golli pob pêl yn y Ganolfan Hamdden... bob tro!

Un o uchafbwyntiau’r wythnos oedd darllen y stori hwyliog Estrys Anti Nel a Lara ar Wib. Gwrandawodd y plant yn astud ac ymateb i’r helyntion doniol a ddigwyddodd, gan ymarfer gwrando, siarad a defnyddio patrymau iaith newydd. Roedd pawb wrth eu bodd yn rhagfynegi beth fyddai’n digwydd nesaf, cyn symud ymlaen at amrywiaeth o weithgareddau a gemau hwyliog a oedd yn atgyfnerthu’r stori ac yn rhoi cyfle i’r plant ddefnyddio eu Cymraeg mewn ffordd ymarferol a chreadigol.

Aeth y plant ati i greu posteri lliwgar a deniadol i hysbysebu Ras Fawr Aberwla. Roedd y lliwiau llachar a’r syniadau gwreiddiol yn gwneud i’r posteri edrych yn wych ac yn dangos dychymyg arbennig y plant.

Paratoi cebabau ffrwythau blasus, paneidiau o de a chorwynt mewn jar oedd rhai o’r gweithgareddau a helpodd y plant i ddysgu ac ymarfer iaith gyfarwyddiadol. Defnyddiodd y dosbarth batrymau iaith wrth siopa yn yr archfarchnad leol, gan ofyn am eitemau ac enwi’r gwahanol ffrwythau.

Bu dysgwyr Canolfan Iaith Porthmadog yn dilyn cyfarwyddiadau i gerdded i’r siop hufen iâ yn y dref ac yn ymarfer iaith gyfarwyddiadol ar hyd y ffordd. Rhoddodd y gweithgaredd hwn gyfle gwych iddynt ddefnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfa go iawn a datblygu hyder wrth gyfathrebu.

Rhoddodd y sesiynau VR yn y canolfannau pontio cynradd/uwchradd gyfle i’r plant ymweld â’r Ganolfan Hamdden ac ail-ymweld â geirfa chwaraeon a phatrymau mynegi barn. Roedd y profiad yn ffordd wych o ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destun ymarferol a datblygu hyder wrth sgwrsio am chwaraeon a gweithgareddau corfforol.

Mentrodd rhai grwpiau hefyd i’r amgueddfa rithwir, lle buont yn dilyn cyfres o sialensau a osodwyd gan Barti Ddu, Santes Dwynwen ac Owain Glyndŵr. Datblygodd y plant eu sgiliau datrys problemau a chydweithio wrth gwblhau’r tasgau, gan ddefnyddio eu Cymraeg mewn ffordd hwyliog ac ystyrlon.

Cymerodd rhai o’r canolfannau ran hefyd ym Mabolgampau’r ysgolion lleol. Roedd hwn yn gyfle gwych i’r plant ailgydio yn eu cymuned ysgol, gwneud ffrindiau newydd a defnyddio eu Cymraeg mewn sefyllfaoedd naturiol y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Cymerodd y plant ran yn y gwahanol weithgareddau, gan gefnogi a chalonogi ei gilydd drwy gydol y dydd, a bu’n brofiad gwerthfawr a llawn hwyl i bawb.

Cafodd y dysgwyr hefyd gyfle i fwynhau perfformiad gan Fand y Gwasanaeth Cerdd. Roedd yn brofiad arbennig iddynt wrando ar amrywiaeth o ddarnau cerddorol a gweld yr offerynnau’n cael eu chwarae’n fyw, gan ychwanegu elfen hwyliog ac ysbrydoledig at yr wythnos.

Mae’r plant wedi mwynhau wythnos o antur, creadigrwydd a dysgu Cymraeg mewn ffordd hwyliog. Rydym yn hynod falch o bob un ohonynt ac yn edrych ymlaen at wneud y mwyaf o’n hwythnos olaf ond un, cyn gorffen y tymor gyda mwy o weithgareddau difyr a chyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.

Dyma gipolwg ar yr hyn rydyn ni wedi bod yn ei wneud yr wythnos hon.

Mae’r wythnos hon wedi bod yn llawn o eiriau a phatrymau newydd:

  • Diddordebau (Dw i’n mwynhau… / Dydw i ddim yn mwynhau…)
  • Hoff bethau
  • Geirfa newydd sy’n codi o’r stori
  • Iaith gyfarwyddiadol
  • Geirfa bwyd a diod
  • Geirfa chwaraeon
  • Mathemateg – siapiau 2D a 3D

Cyfleoedd Dysgu Adref

  • Ymarfer ac adnabod siapiau yn y byd go iawn.
  • Mynd am dro ac adnabod siapiau yn yr amgylchedd.
  • Paratoi byrbryd iach neu gebab ffrwythau gan ddefnyddio cyfarwyddiadau Cymraeg.
  • Helpu i wneud paned o de neu ddiod boeth gyda goruchwyliaeth oedolyn, gan ymarfer yr iaith gyfarwyddiadol.
  • Gwylio rhaglenni Cymraeg.
  • Gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg.