Hafan | Blogiau Wythnosol | Blogiau Tymor yr Haf 2026 | Blog – Wythnos 5
Blog – Wythnos 5
Roedd hi’n wythnos brysur iawn ar draws y canolfannau iaith, gyda llawer o gyfleoedd i’r dysgwyr ddefnyddio Cymraeg mewn sefyllfaoedd ymarferol, creadigol a hwyliog. Mae’r plant wedi parhau i ddatblygu eu hyder wrth siarad, gwrando a chydweithio, ac mae hynny’n amlwg yn eu brwdfrydedd yn ystod y sesiynau.
Yn Canolfan Iaith Porthmadog, cafwyd ymweliad arbennig gan y ci cyfeillgar Mali. Mwynhaodd y dysgwyr ei chyfarfod yn fawr ac fe ddefnyddiwyd ystod eang o Gymraeg i’w disgrifio. Cafwyd defnydd naturiol o eiriau fel cyfeillgar, hapus, tawel a blewog. Roedd hefyd yn gyfle gwerthfawr i drafod llesiant, gan ganolbwyntio ar sut i ofalu am anifeiliaid a dangos parch a charedigrwydd tuag atynt.
Yn ystod yr wythnos, croesawyd Geth Toms i’r canolfannau i gynnal gweithdy cerddoriaeth bywiog a chreadigol. Cafodd y dysgwyr gyfle i archwilio rhythm, curiad ac alaw, cyn mynd ymlaen i gyfansoddi eu caneuon eu hunain. Seiliwyd y gwaith ar batrymau iaith o wythnosau 1–5 yng Nghanolfan Iaith Tywyn, gan atgyfnerthu iaith mewn cyd-destun creadigol a pherfformiadol.
Yn Canolfan Iaith Dolgellau, bu’r dysgwyr yn canolbwyntio ar ddatblygu hyder wrth siarad Cymraeg drwy weithgareddau rhyngweithiol, trafodaethau grŵp a chwarae rôl. Roedd pwyslais clir ar ddefnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd bob dydd, ac mae’r dysgwyr yn dangos cynnydd cadarn yn eu gallu i gyfathrebu’n annibynnol.
Ar draws y canolfannau, bu’r dysgwyr hefyd yn parhau i ddatblygu eu geirfa drwy ddisgrifio anifeiliaid a’u rhannau corff, defnyddio ansoddeiriau, creu anifeiliaid dychmygol a gwrando ar straeon anturus yn Aberwla. Yn ogystal, roedd y sesiynau VR yn cynnig cyfle cyffrous i atgyfnerthu geirfa mewn amgylcheddau rhithiol realistig.
Geirfa a phatrymau’r wythnos
- Disgrifio anifeiliaid a rhannau corff
- Ansoddeiriau i ddisgrifio
- Patrymau iaith o Wythnosau 1–5
- Geirfa o straeon a gweithgareddau cerddoriaeth
- Iaith ar gyfer trafod llesiant
Cyfleoedd dysgu adref
- Disgrifio anifeiliaid yn yr amgylchedd lleol
- Gêm “Pwy ydw i?”
- Creu anifail dychmygol a’i ddisgrifio
- Ymarfer caneuon a phatrymau iaith yr wythnos
- Trafod llesiant (anifeiliaid a phobl)






